Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #93: Sain Ffagan

Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019 - Gan Dyfan Lewis
Her 100 Cerdd #93: Sain Ffagan

Sain Ffagan

 

Yn ymateb i gais gan Sain Ffagan

 

Yno mae cof y Cymry’n byw,

ein taith o gytiau crwn

at weithiau haearn

a Chymru heddiw.

 

Dyma drysor ein cenedl

dyma’n hanes distadl

yn meiddio aros

o hyd yn fyw.

 

Ewch yno, ewch am dro

drwy’r tai a chanfod

ysbryd gwerin ein gwlad

ei gadw yn eich poced

a’i osod yn ôl yn eich cartref

ble mynnoch.

 

Chi sy’n ei eiddo,

y man hynod hwn.

 

– Dyfan Lewis, 10:50 am

Uncategorized @cy