Her 100 Cerdd #95: Gwagio Tŷ
Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019
Gwagio tŷ
Daw profiad i ran pawb, am wn i,
gorfod rhoi pen ar fwdwl holl gwmwl atgofion y teulu
oherwydd bu farw’r ddau dda fu’n byw’n y cartref hwn
a chyda hynny daeth ein hamser ni yma i ben,
mae’n bryd dweud amen.
Mae’n bryd cau y drws ar y tŷ,
mae’n bryd tynnu’r llenni
rhoi’r allwedd yn y clo a rhoi’r tro ola iddi, sbo
mae’n bryd gwerthu,
mae’n bryd symud ymlaen
er mwyn i bobl eraill gael byw eu teulu nhw yno.
– Elinor Wyn Reynolds, 11:05 am