Her 100 Cerdd #96: Cerdd i Godi Calon
Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019
Cerdd i Godi Calon
Pan fydd y newyddion yn llethu
a’r cyfan yn teimlo’n ormod,
a’r ddefod o bryderu
yn dechrau troi’n rwtîn –
diffoddwch y bwletin!
A throi’r foliwm ar hen iPod,
a chofiwch, os ond am ennyd,
beth yn union yw byw a bod.
– Beth Celyn, 11.07 am