Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #98: Cerdd o Fawl i Alun Wyn Jones

Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019 - Gan Matthew Tucker
Her 100 Cerdd #98: Cerdd o Fawl i Alun Wyn Jones

Cerdd o fawl i Alun Wyn Jones

Ar gais dosbarth Blwyddyn 12 @cymraegglanclwyd

 

Pan lithra’r gêm oddi wrthom,

trown at un, ein harwr dewr,

i’n codi o ddyfroedd ein colled,

a’n rhoi yn ôl ar ben y lôn.

 

Ein draig tanbaid, ein capten cryf,

carlama ar hyd pob cae

fel llew’n gwarchod ei orsedd

yn cwrso ar ôl ei brae.

 

Dilynwch chithau Gymry

yn ffyddlon wrth ei ôl,

a throwch Siapan yn oriel

o’ch llwyddiant di-droi-nôl.

– Matthew Tucker, 11.31 am

Uncategorized @cy