Plethu/Weave: Krystal Lowe ac Alex Wharton

Yn ddiweddar, fe rannodd Llenyddiaeth Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ffilm ddiweddaraf cyfres Plethu/Weave. Cywaith rhwng y bardd Alex Wharton a’r ymarferydd dawns Krystal Lowe oedd Pethau Gwell i Ddod.
Ysgrifennodd Krystal gyfres o flogiau am y broses o greu pethau da i ddod ar ei blog. Maent yn fewnwelediad gwych i sut y bu i’r ddau gydweithio trwy gydol y broses greadigol, ac rydym wir yn eich annog i’w darllen nhw.
Dyma rai dyfyniadau:
Y peth mwyaf hardd am y comisiwn hwn yw, er bod themâu penodol – gofalu am yr amgylchedd, natur, a chynaliadwyedd – mae cymaint o le i archwilio sut fydd y themâu hynny’n cael eu harchwilio a’u cyflwyno drwy ein ffilm sydd wedi ei chreu ar y cyd.
Roeddwn hefyd yn medru cael drafft a recordiad llais o’r gerdd gan Alex. Roedd yn arbennig clywed sut y daeth â phopeth at ei gilydd, ac roedd yn ysbrydoliaeth wirioneddol ar gyfer fy ngweledigaeth ar gyfer awyrgylch cyffredinol y ffilm.
Mae’n ysgrifennu gyda pharch amlwg a chalon dros natur sy’n ymddangos yn y themâu cyson o ofalu am natur drwy gydol ei waith.
Rwyf wrth fy modd â llenyddiaeth ac rwyf wrth fy modd gyda dawns – mae plethu’r ddau beth yma ynghyd yn hyfryd ac yn bleser ni fydd gen i fyth y geiriau i’w ddisgrifio.
I mi, pan rwy’n meddwl am greu darn, yn gyntaf oll, rwy’n ystyried beth fyddaf yn ei wisgo a sut fydd hynny’n dylanwadu ar fy symudiadau a sut fyddaf yn rhyngweithio gyda’r ardal o fy nghwmpas.
Mae’r broses greu gydag Emma-Jane o hyd yn gyffrous, archwiliadol a chydweithredol…
Rydym yn archwilio lliw ffabrig naturiol, uwchgylchu dillad, a ffyrdd o ganiatáu i’r wisg efelychu natur gyda dyluniadau a deunyddiau sy’n llawn gweadau.