Dewislen
English
Cysylltwch

Ust | Ffilm #2 Plethu/Weave

Cyhoeddwyd Mer 26 Awst 2020 - Gan Ifor ap Glyn
Ust | Ffilm #2 Plethu/Weave
Ysgrifennwyd y blog hwn gan Ifor ap Glyn fel rhan o brosiect Plethu/Weave, prosiect trawsgelfyddyd rhwng Llenyddiaeth Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.

Roedd y brîff gwreiddiol gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Llenyddiaeth Cymru yn un digon pen-agored. Rhoddwyd penryddid i bob bardd a dawnsiwr /wraig oedd wedi’u pario hefo’i gilydd, i ddyfeisio’u proses greadigol eu hunain, er mwyn archwilio sut y gallai dawns a barddoniaeth ddod at ei gilydd o fewn cyflwyniad fideo byr.

Y man cychwyn a awgrymwyd ar gyfer y cyweithiau hyn, oedd ‘cynghanedd’ – boed yn yr ystyr o dechneg farddol, neu yn yr ystyr ehangach o gytgord cerddorol – motif digon addawol gobeithio, ar gyfer archwilio’r berthynas rhwng dawns a barddoniaeth!

Trafodais y prosiect hefo Faye am y tro cyntaf ar ddechrau mis Mehefin, ac yn ystod ein sgwrs gyntaf, cytunon ni ar nifer o ganllawiau cychwynnol ar gyfer ein cywaith. Cytunwyd y bydden ni yn

  • defnyddio sain ambient, neu effeithiau sain, yn hytrach na cherddoriaeth, ar gyfer trac sain y cywaith
  • ceisio ymgorffori’r cyfieithiad Saesneg o’r gerdd ar y sgrin, fel rhan o’r estheteg gweledol, gyda’r geiriau’n ymddangos ac yn diflannu yn y bylchau fyddai’n cael eu fframio gan symudiadau Faye, a’r geiriau felly fel petai’n ymateb yn rhithwir i’r ddawns
  • gadael seibiau digonol wrth lefaru’r gerdd, fel na fydd y munud a brofir ar sgrin yn rhy ‘brysur’ (yn gorlethu’r gwyliwr gyda gormod yn digwydd yr un pryd wrth iddo/iddi orfod  ‘darllen’ symudiadau a graffeg mewn gwahanol rannau o’r sgrin,tra’n gwrando hefyd)

Cytunon ni hefyd y dylai’r broses greadigol gychwyn hefo’r geiriau. Ar y dechrau doeddwn i ddim yn sicr a ddylai’r gerdd geisio archwilio’r syniad o gynghanedd farddol, gan ffocysu yn fwy arbrofol efallai ar sain, ac ar ail adrodd, gymaint ag ar yr ystyr? Ynteu  tybed  a ddylai fod yn fwy confensiynol o ran ei strwythur? Gyda awgrym o stori efallai? Dechrau, canol a diwedd?

Roedd y gerdd a ddaeth yn y diwedd, ‘ust ‘ rywle rhwng y ddau – yn gonfensiynol o ran ei strwythur, ond yn ceisio archwilio cysyniad! Mae’n ceisio archwilio’r synthesis rhwng ein dwy ffordd ddewisedig o fynegi ein hunain, a sut y gall y ddau gyfrwng hwn gloi hefo’i gilydd o fewn ein cywaith newydd. Neu a cheisio mynegi’r peth yn fwy cryno, (fel mae beirdd i fod i’w wneud!) – ‘sut mae geiriau’n symud?’ Mae ‘na gyffyrddiadau cynganeddol o fewn y gerdd, ond dim ond yn achlysurol -nid honno yw’r brif estheteg.

Yna dechreuodd Faye wneud i’r geiriau symud – ond wrth iddi ddechrau recordio a golygu ei dehongliad o’r gerdd, penderfynon ni y byddai cynnwys y cyfieithiad ar y sgrin yn trymlwytho’r elfen weledol yn ormodol, ac yn amharu ar y ddawns, yn hytrach nac ategu ati.

Roedd yn fraint cael gweithio hefo’n gilydd (er mai trwy facetime yn unig oedd hynny!), er mwyn cyd-gynhyrchu’r fideo gerdd/ddawns hon – gobeithiwn y gwnewch chi ei mwynhau!

 

Gallwch wylio Ust, ffilm fer Ifor a Faye, isod: