Antholeg Gwobr Straeon Byrion Rhys Davies 2024 – Digwyddiad Lansio
Ymunwch a ni i ddathlu lansiad Antholeg Gwobr Straeon Byrion Rhys Davies 2024!
Bydd y beirniad gwadd Rebecca F. John, y golygydd Elaine Canning a phrif enillydd Cystadleuaeth Straeon Byrion Rhys Davies 2024 yn trafod y casgliad a ffurf y stori fer.
Mae’r straeon, sydd wedi cael eu cynnwys ar ‘Antholeg Gwobr Straeon Byrion Rhys Davies 2024’, yn portreadu bywyd yn ei holl ffurfiau hardd, ingol, a gonest. Yma, ceir bywydau sy’n mynd drwy gyfnod o newid – rhwng diwylliannau ac ieithoedd, y presennol a’r gorffennol, breuddwydion a realiti. Mae cymeriadau, briwiedig a bregus, yn crwydro ac yn rhyfeddu.
Awduron yn yr antholeg hon: Brennig Davies, Morgan Davies, Kamand Kojouri, Dave Lewis, Kapu Lewis, Lloyd Lewis, Polly Manning, Siân Marlow, Keza O’Neill, Tanya Pengelly, Anthony Shapland, a Jo Verity.
DIM ANGEN TOCYNNAU | DIM OND TROI FYNY