Ymunwch â ni ar gyfer Ponty Poetry, cyfle i feirdd sefydledig ac egin lenorion De Cymru ddarllen, a gwrando ar, barddoniaeth ei gilydd yn awyrgylch hwyliog y Cwtch Cafe.

Gwestai arbennig y mis yma yw Hanan Issa! Mae Hannan yn awdur, gwneuthurwr ffilmiau ac artist Cymreig-Iracaidd. Ymhlith ei chyhoeddiadau mae My Body Can House Two Hearts a Welsh Plural: Essays on the Future of Wales. Hi oedd Cymrawd Rhyngwladol y Gelli 2022-2023 a hi yw Bardd Cenedlaethol presennol Cymru!

Croeso i bawb, boed hynny i gyfrannu neu dim ond i wrando a mwynhau! Does dim angen archebu lle, dewch draw ar y diwrnod!