A hwythau’n cynrychioli’r Prif Feirdd Roc a Rôl Go Iawn, mae Bob Dylan a Dylan Thomas hefyd yn cynrychioli dwy ochr yr un geiniog. Bob Dylan gynhyrchodd y gerddoriaeth! Dylan Thomas fu’n byw’r bywyd! Bu’r ddau’n perffeithio’r grefft o gyfansoddi llenyddiaeth. Gan ddod â dau o’r ysgrifenwyr mwyaf blaenllaw ar y ddau artist ynghyd am y tro cyntaf, mae The Two Dylans yn mynd â ni ar lwybr llenyddol a llythrennol a ddilynwyd gan Bob Dylan a Dylan Thomas.

 

Mae cynifer o gysylltiadau a chyd-ddigwyddiadau rhyfedd a gwych; hoffterau cyffredin a chysylltiadau sy’n cysylltu’r ddau eicon diwylliannol Bob Dylan a Dylan Thomas â’i gilydd. Mae’n cynnig tapestri cyfoethog – o chwedlau gwerin hynafol y Mabinogi i gerddi Cenhedlaeth y Bitniciaid; o Stravinsky i John Cale; o Johnnie Ray i Charlie Chaplin. Rimbaud a Lorca, Sgt. Pepper’s a ‘The Bells of Rhymney’, Nelson Algren a Tennessee Williams a llawer mwy.

Ac mae’r cysylltiadau gwych rhwng yr awduron K G Miles a Jeff Towns yn creu partneriaeth wych i ysgrifennu’r llyfr hwn. Pum deg a dwy o flynyddoedd yn ôl, agorodd Jeff Towns ei siop lyfrau gyntaf yn Abertawe – gan enwi’r siop yn Dylans Bookshop – teyrnged fywiog i’r bardd Dylan Thomas a gafodd ei eni a’i fagu yn Abertawe. Wyth mlynedd cyn hynny, ym 1962, (pan nad oedd wedi clywed am Dylan Thomas hyd yn oed), prynodd LP cyntaf Bob Dylan o’r enw Bob Dylan a oedd yn cynnwys rhestr o ganeuon gan gynnwys y canlynol; In My Time of Dyin’, Fixin’ to Die, See That My Grave is Kept Clean ac ati; tair ar ddeg o ganeuon pwerus. Darllenodd Jeff fod ei arwr newydd wedi cael ei eni’n Robert Zimmerman ond ei fod wedi newid ei enw i Bob Dylan i dalu teyrnged i’r bardd o Gymru, Dylan Thomas. O’r eiliad honno, daeth Y Ddau Dylan yn gefndir parhaus ym mywyd Jeff.

A bu’r ddau Dylan yn parhau i roi – ar glawr albwm Sgt. Pepper y Beatles. Roedd Peter Blake, a ddyluniodd glawr Pepper, yn ffan mawr o ddrama radio Dylan Thomas, Under Milk Wood. Aeth Jeff i weld Peter, daethant yn ffrindiau ac maent yn ffrindiau o hyd. Rhoddodd Peter ei ganiatâd i ddefnyddio’i lun Tiny Tina gwych ar gyfer clawr y llyfr hwn.

 

Ysbrydolwyd y cyd-awdur K G Miles o Lundain gan BOob Dylan ers gweld Bob yn ei Ŵyl ar Ynys Wyth ym 1969. Bellach ef yw cyd-guradur Ystafell Dylan yng Nghlwb Troubadour yn Llundain a chafodd y pleser o siarad yn nghynhadledd agoriadol Archif Tulsa yn 2019.

 

‘…why, you can’t swing a cat without hitting a Dylan… male and female, such are the influences of these two cultural giants. Why did Dylan choose Dylan as his name, where do the worlds of these colossal culture vultures and wordsmiths collide? Some of the answers are found in the pages of this book and a lot more besides. I hope you enjoy the trip as much as I do.’ O’r Rhagair gan Cerys Matthews

 

Jeff Towns yw un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw’r byd ar Dylan Thomas. Mae’n siaradwr, yn wneuthurwr rhaglenni dogfen, yn sylwebydd yn y cyfryngau, ac mae’n gweithio fel gwerthwr hen lyfrau yn nhref gartref y bardd yn Abertawe. Yn wreiddiol, adwaenid Jeff yn lleol ac yn fyd-eang dan yr enw Jeff the Books. Bellach fe’i hadwaenir yn annwyl ac yn broffesiynol fel The Dylan Thomas Guy. www.dylans.com

 

Mae’r cyd-awdur K G Miles yn awdurdod blaenllaw ar Bob Dylan ac yn gyd-guradur yn Ystafell Dylan yng Nghlwb Troubadour yn Llundain. Trwy ysgrifennu, podlediadau a theithiau Dylan, mae K G Miles yn gallu rhannu ei wybodaeth a’i brofiad o Bob Dylan â’r rhai sy’n dwlu ar gerddoriaeth ym mhedwar ban byd. Twitter: @barberville