gyda Lisa Blower, Patrick Jones, Emma Smith-Barton a Grace Quantock 

Y cyntaf o gyfres o ddigwyddiadau i awduron fel rhan o raglen datblygu awduron Cynrychioli Cymru.

Ymunwch â ni ar gyfer sesiwn gonest a chreadigol yn trafod y rhwystrau parhaus sy’n wynebu awduron o gefndiroedd incwm isel a chymunedau sydd wedi eu tangynrychioli yma’n Nghymru ac yn y DU. Bydd y sesiwn yn cynnwys trafodaethau a darlleniadau creadigol, a bydd yn cyffwrdd ar themâu megis lle, hunaniaeth, a gweithredaeth creadigol.  

Darperir isdeitlau byw yn Saesneg yn ystod y sesiwn hon.  

Noder: Bydd rhaid cofrestru am y digwyddiad o flaen llaw.

Cofrestrwch yma.

Y Siaradwyr

A hwythau i gyd yn awduron, mae’r pedwar siaradwr yn angerddol dros gynyddu amrywiaeth a chynhwysedd o fewn y diwydiant cyhoeddi a’r celfyddydau. Maent i gyd yn ymgyrchu dros newid o fewn eu gwaith ysgrifennu a’u gwaith yn y gymuned.  

Lisa Blower 

Mae Lisa Blower yn awdur a nofelydd straeon byrion. Cafodd ei chasgliad stori fer gyntaf It’s Gone Dark over Bill’s Mother’s Mother’s ei rhestru ar gyfer Gwobr Edge Hill 2020, a fe enwebwyd ei nofel gyntaf Sitting Ducks (Fair Acre Press) ar gyfer rhestr fer Gwobr gyntaf Arnold Bennett, a rhestr hir Not the Booker 2016 The Guardian, The Rubery Award 2016, a The People’s Book Prize 2016. 

Cyfrannodd ddarn hunan-gofiannol A Pear in a Tin of Peaches sy’n trafod ei magwraeth yn Stoke on Trent yn antholeg Common People (gol. Kit de Waal).  

Mae ganddi PhD o Brifysgol Bangor mewn Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol ac mae bellach yn Uwch Ddarlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol a Phroffesiynol ym Mhrifysgol Wolverhampton lle mae’n parhau i hyrwyddo ffuglen dosbarth gweithiol a lleisiau rhanbarthol. 

Patrick Jones 

Mae Patrick Jones yn fardd ac yn ddramodwr o’r Coed Duon, ac mae wedi gweithio’n eang mewn lleoliadau iechyd a chymunedol. Yn Ysgrifennydd Preswyl gyda Choleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru ar hyn o bryd, mae wedi gweithio gyda’r Forget Me Not Chorus, sef côr o unigolion sy’n byw â dementia, ar brosiect sy’n cofnodi rhai o hoff ganeuon yr aelodau, a’r hanesion sydd y tu ôl iddynt. Mae Patrick wedi gweithio gyda Mind Cymru, y Samariaid, Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Ysbyty Felindre, y Big Issue a mwy, ar amrywiaeth o brosiectau ysgrifennu ar gyfer iechyd a llesiant. Mae ei gyhoeddiad diweddaraf, My Bright Shadow (Rough Trade Books, 2019), yn gasgliad o farddoniaeth sy’n archwilio galar, bywyd a chariad. 

Emma Smith-Barton 

Ganwyd Emma Smith-Barton yn ne Cymru i rieni o Bacistan. Mae ei gwaith wedi ei ddylanwadu yn drwm gan ei phrofiad o fyw rhwng y ddau ddiwylliant, ac mae ganddi ddiddordeb penodol mewn archwilio themâu o hunaniaeth a pherthyn. Cyn ysgrifennu, bu’n dysgu mewn ysgolion uwchradd am chwe mlynedd, ac mae’n teimlo’n angerddol iawn dros godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ymysg pobl ifanc. Astudiodd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Warwick, ac mae ganddi MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Caerfaddon. Mae ei straeon byrion wedi ymddangos mewn sawl cyhoeddiad yn cynnwys Mslexia a Blodeugerdd Cystadleuaeth Stori Fer Bryste (dan ei ffugenw ar gyfer ei rhyddiaith i oedolion, Amna Khokher). Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf i bobl ifanc, The Million Pieces of Neena Gill (Penguin Random House, 2019), restr fer Gwobr Llyfrau Plant Waterstones 2020, Gwobr Branford Boase 2020 a Nofel Ramantaidd Gyntaf y Romantic Novelists’ Association yn 2020. 

Grace Quantock 

Mae Grace Quantock yn awdur ac yn chwnselydd.  Mae hi’n ysgrifennu gwaith ffeithiol greadigol drwy blethu’r celfyddydau, cyfiawnder cymdeithasol a chyrff wedi eu gwthio i’r cyrion. Mae hi wedi derbyn sawl gwobr megis The London Library Emerging Writers Award, A Writing Chance gyda Michael Sheen ac roedd ar rhestr fer y Nan Shepherd Prize a Writers’ & Artists’ Working-Class Writers’ Prize 2021. Yn 2022, enillodd Grace wobr Curtis Brown Creative Breakthrough.  

Mae ei gwaith wedi ei gyhoeddi yn The Guardian, The Metro a The New Statesman ac mae hi hefyd wedi ymddangos yn The New Yorker Online, The Times a Marie Claire.  Mae hi’n byw yng Nghymru ac yn teimlo’n angerddol am gadw dyddiadur a chaligraffeg. Mae hi ar hyn o bryd yn ysgrifennu casgliad o draethodau sy’n dwyny teitl, Madwomen Are My Ancestors.  

Digwyddiadau eraill yn y gyfres:

Llên a Llesiant

Writing Nature