gyda Mari Elen Jones, Caryl Bryn and Dewi Prysor 

Yr ail o gyfres o ddigwyddiadau i awduron fel rhan o raglen datblygu awduron Cynrychioli Cymru.

Ymunwch â ni ar gyfer sesiwn yn canolbwyntio ar bwysigrwydd llesiant yn ystod y broses o ysgrifennu a chreu. Bydd y siaradwyr yn sôn am sut maent yn llywio eu gyrfaoedd ysgrifennu ac yn ymdopi â phwysau dyddiadau cau, gwaith yn cael ei wrthod a diffyg ysbrydoliaeth.  

Cynhelir y sesiwn yn y Gymraeg a darperir cyfieithu ar y pryd i’r Saesneg.  

Noder: Bydd rhaid cofrestru am y digwyddiad o flaen llaw.

Cofrestrwch yma.

Y Siaradwyr 

Mari Elen 

Mae Mari Elen yn awdur, arweinydd gweithdai, gwneuthurwr theatr a sefydlydd y podlediad Gwrachod Heddiw. Yn wreiddiol o Harlech, Gwynedd graddiodd o Brifysgol De Cymru’n 2015 ac ers hynny mae hi wedi gweithio gyda sawl cwmni theatr. Yn bennaf, mae hi’n ysgrifennu am gymeriadau benywaidd a materion benywaidd ac yn mwynhau’r archwilio’r cysyniad o ‘Gymreictod’.  

Caryl Bryn 

Mae Caryl Bryn yn fardd ac yn awdur. Graddiodd o Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor yn 2017 a chafodd MA o’r un Ysgol yn 2020. Fe’i henwebwyd fel bardd y mis BBC Radio Cymru’n mis Ebrill 2019, ac yn yr un flwyddyn daeth yn drydydd yn nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod yr Urdd. Mae ei gwaith wedi ei gyhoeddiyn Barddas ac Y Stamp ymysg cyhoeddiadau eraill. Enillodd wobr categori barddoniaeth Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2020 gyda’i chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Hwn ydy’r llais, tybad? (Cyhoeddiadau’r Stamp, 2019). Mae hi ar hyn o bryd yn gweithio fel Cynhyrchydd Cynnwys Digidol gyda Tinopolis ac yn ysgrifennu ar gyfer Hansh a S4C. Yn ddiweddar, fe ysgrifennodd sgript ac actiodd mewn cyfres beilot, ‘Iawn Met’ fydd yn cael ei darlledu cyn bo hir.  

Dewi Prysor 

Mae Dewi Prysor yn wreiddiol o Gwm Prysor ger Trawsfynydd yn ngogledd-orllewin Cymru. Mae’n byw yn Blaenau Ffestiniog gyda’i wraig a thri o feibion. Mae o’n saer maen, bardd, cerddor, ac awdur. Mae ei dair nofel gyntaf, Brithyll, Madarch a Crawia (Y Lolfa) yn ffurfio trioleg. Cafodd ei bedwaredd nofel, Lladd Duw (Y Lolfa, 2010), ei henwi ar Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2011, ac enillodd Wobr Barn y Bobl Golwg 360. Yn ddiweddar, cyhoeddodd gyfrol newydd 100 Cymru: Y Mynyddoedd a Fi (Y Lolfa, 2021), yn adrodd ei hanes o ddringo 100 copa uchaf Cymru.  

Digwyddiadau eraill yn y gyfres:

Breaking Barriers to Getting Published

Writing Nature