Ar y cwrs hwn fe fyddwn yn edrych ar gerddi cewri’r gorffennol a mawrion cyfoes, y cerddi a’r beirdd rheini sydd wedi mentro gwthio ffiniau ffurf a phwnc. Gan ddilyn ôl eu troed, byddwn yn ceisio camu i mewn i fyd ein cerddi ein hunain gan feddwl bron fel dechreuwyr pur. Y nod fydd ymwrthod â’n patrymau arferol ein hunain wrth drin a chloi ein cerddi, gan ymddiried ddigon yn y gerdd i’w dilyn i ble mae hi’n ein harwain. Byddwn yn rhoi ein tabŵs ein hunain ar y glorian, ac yn osgoi’r ddihangfa hawdd, cyn wynebu ein hanesmwythyd benben a throi hynny’n farddoniaeth newydd a beiddgar.