Bob yn ail nos Fawrth rhwng 05/02/2019 – 09/07/2019, mi fydd Rhys ac Iwan yn cynnal dosbarthiadau cynganeddu hwyliog ac anffurfiol dros baned neu beint. Bydd un dosbarth i ddechreuwyr pur, a dosbarth arall i’r rheini sy’n fwy cyfarwydd â’r rheolau ond am ddatblygu neu ymarfer eu crefft. Bydd y pwyslais bob amser ar greu.

Yn dilyn tymor llwyddiannus dros ben, rydym wedi gweld budd y sesiynau cynganeddu i’r unigolion sydd yn mynychu wrth iddynt fagu hyder i gyflwyno eu gwaith yn ein Heisteddfod Cerdd Dafod yn y Doc nôl ym mis Gorffennaf.

Caiff y noson ei chynnal gyda chymorth ariannol gan gynllun nawdd Awduron ar Daith.