Mae stripiau comics fel modd o adrodd straeon yn ffurf hynafol iawn, ond byddwn er hynny yn cymryd cam yn ôl ac ystyried sut y mae dod â geiriau a lluniau ynghyd er mwyn adrodd eich stori orau? Treuliwch wythnos yn archwilio potensial y cyfrwng: o sgriptio a strwythuro er mwyn taro ergydion emosiynol i ddefnyddio amseru, y symud rhwng paneli ac ymarferoldeb comics eu hunain i wneud yr hyn sy’n anweledig yn y naratif yn weladwy. Byddwn hefyd yn edrych ar ffyrdd o ddatblygu cymeriadau a phlot mewn fframwaith gweledol. Mae’r cwrs hwn yn agored i bobl waeth beth yw eu profiad, sydd â syniad ar gyfer comic ar y gweill. Gall hyn fod yn gnewyllyn syniad yn unig, neu’n gampwaith graffig wedi’i sgriptio’n llawn, yn ffuglen neu’n ffeithiol.