Dyma stori llawn rhyfeddod a throeon, gemau a dichelldroeon eithriadol, mae Crown Face, Doll Face yn archwilio cael eich gorfodi i fyw â chanlyniadau’r penderfyniadau rydym yn eu gwneud a’r ffantasïau rydym yn eu creu i gysuro ein hunain pan fydd ein bywydau’n methu bodloni’r disgwyliadau a oedd gennym.

Mae Annie yn fam i bedwar o blant, sy’n anhapus yn ei phriodas ac sy’n boddi mewn caethiwed domestig. Yn aml, mae’n gofyn iddi ei hun sut fywyd allai fod wedi’i gael pe bai hi heb gael plant, ond pan fydd ei merch ieuengaf yn gwneud rhywbeth sy’n ymddangos yn amhosib, sef esgyn i’r awyr, mae hud yn cyffwrdd â’i bywyd a sylweddola fod ei merched yn wirioneddol arbennig a rhaid iddi eu hamddiffyn. Yn y pen draw, mae Annie’n magu’r dewrder i adael ei llanastr o briodas , ond mae hi’n cyflawni gweithred ofnadwy, annychmygadwy, sy’n groes i natur mam ar hyd y ffordd.

Mae Carly Holmes yn byw ac yn ysgrifennu ar lannau afon Teifi, yng ngorllewin Cymru. Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf, The Scrapbook, y rhestr fer ar gyfer Gwobr Llyfrau Ryngwladol Rubery, a chyhoeddwyd ei chasgliad o straeon byrion ffantasi ac arswyd, Figurehead, mewn argraffiad clawr caled cyfyngedig gan Tartarus Press, a’i ailargraffu ar ffurf clawr papur gan Parthian Books. Mae ei rhyddiaith fer arobryn wedi ymddangos mewn cyfnodolion ac antholegau megis Ambit, The Ghastling, The Lonely Crowd, ac wedi cael ei dewis ddwywaith am Waith Arswyd Gorau’r Flwyddyn.