Ymunwch ag Abeer Ameer ar gyfer gweithdy digidol i archwilio’r cysylltiadau rhwng meddylgarwch a barddoniaeth. Byddwn yn edrych ar sut y gall ymarfer meddylgarwch, sy’n golygu canolbwyntio ar y foment bresennol heb fod yn feirniadol a gyda meddwl agored hwyluso’r grefft o ysgrifennu, ac yn benodol i farddoni yn rhwydd. Byddwn hefyd yn archwilio sut y gellir defnyddio barddoniaeth i fagu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ohonoch chi eich hun a phawb o’ch cwmpas. Bydd y cwrs ei hun yn para awr, ond mae amser wedi ei neilltuo er mwyn croesawu pawb ar y cychwyn ac i holi cwestiynau a sgwrsio ar y diwedd. Cwrs drwy gyfrwng y Saesneg fydd hwn. 

Bydd cyrsiau blasu Tŷ Newydd yn ymweld â sawl pwnc a genre gwahanol yn y Gymraeg a’r Saesneg, i’ch annog i gychwyn, neu barhau, â’ch ysgrifennu creadigol yn ystod y gaeaf. Bydd y niferoedd ar gyfer pob cwrs blasu’n cael eu cyfyngu i 20, a caiff y cwrs ei gynnal dros y platfform fideo Zoom. Gobeithio y cewch flas ar y cwrs, ac y cawn eich croesawu i Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy ar gwrs hwy yn y gwanwyn, lle byddwn yn cynnal rhaglen lawn o gyrsiau undydd, a chyrsiau preswyl amrywiol. 

Caiff y cwrs hwn ei redeg rhwng 12.00 – 1.30 pm.