
Darlith a thrafodaeth gan Dr William Lewis
Dyma ddarlith a thrafodaeth ar y testun : ‘Agweddau ar y theatr fodern yng Nghymru’ gan Dr Wiliam Lewis.
Magwyd Dr William Lewis yn Llangristiolus a Llangefni. Cyn iddo ymddeol roedd yn uwch-ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor. Ei briod faes oedd y ddrama a’r theatr Ewropeaidd, y ddrama a’r theatr yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif.
Gan ei fod wedi ysgrifennu gweithiau ar gyfer y llwyfan, radio a theledu, dysgai hefyd gyrsiau creadigol i’w fyfyrwyr. Mae ganddo brofiad helaeth fel cyfarwyddwr theatr, ac wedi cyfarwyddo sawl drama o eiddo John Gwilym Jones a Saunders Lewis. Cyhoeddodd sawl astudiaeth feirniadol ar natur gwaith John Gwilym Jones. Mae ganddo diddordeb yn ddramau Cymraeg yr ugeinfed ganrif, yn arbennig gweithiau W.J.Gruffydd.
Y dyddiau hyn mae’n gweithio ar ddrama yn darlunio a dadansoddi ei ddyddiau cynnar yn blentyn yn Llangristiolus ble roedd ei dad yn rheithor plwyf.
Caiff y gweithdy ei gynnal gyda chymorth ariannol gan gynllun nawdd Awduron ar Daith.