Dosbarth Meistr Barddoniaeth yr Hydref
I feirdd ymroddedig y mae’r dosbarth meistr hwn, a’r rheini â’u bryd ar ddatblygu eu crefft ymhellach. Bydd yr wythnos yn cynnwys gweithdy grŵp bob bore i sbarduno cerddi newydd, amser i ysgrifennu’n unigol, a phrynhawniau rhydd i ddarllen neu chwilio am ysbrydoliaeth yn nhirwedd prydferth Tŷ Newydd a’r ardal. Byddwch yn mwynhau dwy noson o ddarlleniadau barddoniaeth: un gan y tiwtoriaid, a’r llall gan ddarllenydd gwadd. Bydd y cwrs yn dod i ben gyda creu blodeugerdd o waith y beirdd a’r tiwtoriaid, a dathliad yn y llyfrgell fin nos o’r gwaith fydd wedi ei gyfansoddi. Cwrs fydd hwn i herio ac ysbrydoli awduron sy’n awyddus i ddatblygu arddull, telynegrwydd a phosibiliadau dychmygol eu barddoniaeth.
Er mwyn i bawb elwa o lefel uchel o drafodaeth feirniadol a chyfranogiad, caiff 14 awdur eu dethol ar gyfer y Dosbarth Meistr hwn yn seiliedig ar broses ymgeisio fydd yn gofyn am enghraifft o’u gwaith.
Dyma sut i wneud cais am le ar y Dosbarth Meistr:
- Gyrrwch 6 cerdd dros ebost at tynewydd@llenyddiaethcymru.org erbyn dydd Gwener 21 Awst 2020. Gwnewch yn siŵr bod eich enw a manylion cyswllt ar y gwaith a’i fod wedi ei farcio gyda “Cais Dosbarth Meistr yr Hydref”. Os na fedrwch yrru eich gwaith dros ebost, cewch ei yrru drwy’r post at Dŷ Newydd.
- Os yn berthnasol, gyrrwch unrhyw fanylion ynglŷn â’ch cefndir cyhoeddi.
- Byddwn yn rhoi gwybod ganol Medi os ydych chi wedi cael eich dewis. Os y cewch chi gynnig lle ar y Dosbarth Meistr, byddwn yn gofyn yn garedig i chi dalu eich blaendal o £100 i sicrhau eich lle.
Ni fydd cerddi yn cael ei dychwelyd atoch. Bydd y tiwtoriaid, Gillian Clarke a Jonathan Edwards, yn dewis y cyfranogwyr ar sail y cais a’r cerddi, a bydd eu penderfyniad yn derfynol. Os ydych yn gwneud cais am ysgoloriaeth i helpu â’r gost, gyrrwch ffurflen ysgoloriaeth i mewn gyda eich cerddi (ffurflen ar gael ar eich cais).