Dydd o Fyfyrio ar Farddoniaeth Rhyfel a Heddwch yng Nghymru

Wrth i’r digwyddiadau sy’n nodi canmlwyddiant coffa’r Rhyfel Byd Cyntaf ddirwyn i ben, mae Llenyddiaeth Cymru yn eich gwahodd i ymuno mewn diwrnod arbennig o fyfyrio a thrafod ar ryfel a heddwch gyda pherfformiadau, darlleniadau, darlithoedd comisiwn a chyflwyniadau gan rai o awduron mwyaf Cymru.

Noddir y digwyddiad hwn gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AC, ac fe’i drefnir gan Llenyddiaeth Cymru gyda chefnogaeth gan Raglen Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf Llywodraeth Cymru, Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918.

Bydd Estyn yn Ddistaw yn cynnwys perfformiadau o waith llenyddol gwreiddiol gan: Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru; Gillian Clarke; Alan Llwyd; Eric Ngalle Charles; Nerys Williams; Cywion Cranogwen; disgyblion o Ysgol Calon Cymru, Llanfair ym Muallt; Ysgol Uwchradd Fitzalan, Caerdydd; Aelodau Cynulliad a mwy.

Gyda’r nos, fe gynhelir perfformiad dwyieithog arbennig o Y Gadair Wag, sioe farddoniaeth aml-gyfrwng gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, sy’n edrych ar hanes Hedd Wyn o’r newydd, gan archwilio natur colled, ffiniau a hunaniaeth. [7.00 pm, Canolfan yr Urdd, Canolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd. Tocynnau: £8.00. I archebu cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru ar: post@llenyddiaethcymru.org / 029 2047 2266 neu am ragor o wybodaeth cliciwch yma.]

Ymunwch â ni am y diwrnod cyfan, neu mae croeso i chi alw heibio am rannau ohono.

*Am ragor o wybodaeth ac amserlen lawn y diwrnod cliciwch yma.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: 029 2047 2266 / post@llenyddiaethcymru.org

 

Llun: © IWM (Q 2711)