
Lansio ffilm-farddoniaeth: Fragments of Us
Bydd y dathliad hwn yn cynnwys dangosiad ffilm ‘preifat’, gydag opsiynau i gyfrannu eich ymateb creadigol eich hun (os ydych chi’n dymuno gwneud hynny), darlleniadau barddoniaeth ecffrastig a meta-ecffrastig, a sesiwn holi ac ateb fer.
Mae ‘Fragments of Us’ yn cyfuno barddoniaeth a ffocws ar y broses o greu, gan fyfyrio ar greadigrwydd yr ymwelwyr a ymatebodd i arddangosfa farddoniaeth ryngweithiol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn 2022. Mae’r ffilm-farddoniaeth hon yn defnyddio rhai o eiriau gwreiddiol ymwelwyr yr amgueddfa, gan eu cysylltu â’i gilydd mewn ffordd sy’n mynd i’r afael â natur cydweithredol y sgwrs ecffratig barhaus hon. Comisiynwyd gan SHAPE Arts.
Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ond mae lleoedd yn brin, felly cofrestrwch.
Digwyddiad wedi’i ariannu gan Image Works.