Merch, Aderyn a Bedwen: Byd Dafydd ap Gwilym
Cyfle i fwrw golwg ar rai o gerddi bardd Cymraeg mwyaf yr Oesoedd Canol, Dafydd ap Gwilym. Cawn edrych ar y cyd-destun llenyddol a hanesyddol ac ystyried rhai o’r themâu oesol sy’n sicrhau apêl a pherthnasedd ei waith hyd heddiw.
Recordiadau ar gael os byddwch yn methu sesiwn.
3 sesiwn dan arweiniad Dr Sara Elin Roberts.
3, 10, 17 Chwefror, 7.30yh ar Zoom.