Dathlu Ieithoedd Cynhenid Cymru, Yr Alban ac Iwerddon

 

Bydd y digwyddiad aml-ieithog hwn yn cynnwys Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, yr awdur a pherfformiwr Ciara Ní É, a’r bardd-berfformiwr Marcas Mac an Tuairneir. Bydd Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn yn cadeirio’r digwyddiad.

Bydd yr holl awduron yn rhannu ac yn trafod iaith, llenyddiaeth a hunaniaeth eu gwledydd eu hunain, ac yn darllen detholiad o’u gwaith. Cynhelir y drafodaeth yn Saesneg, gyda’r cerddi’n cael eu perfformio yn eu hieithoedd gwreiddiol – Cymraeg, Gwyddeleg a Gaeleg.

Croeso i bawb.

 

Dydd Mawrth, 26 Tachwedd 2019

17.00 amser safonol

Canolfan Astudiaethau Prydeinig

Mohrenstraße 60

10117 Berlin

 

www.llenyddiaethcymru.org

www.literaryfield.org

www.gbz.hu-berlin.de

 

Mae’r digwyddiad hwn wedi ei drefnu ar y cyd rhwng y Literary Field Kaleidoscope, y Ganolfan Astudiaethau Prydeinig, Llenyddiaeth Cymru a British Council Cymru.