
Noson Cymry. Balch. Ifanc.
Noson i ddathlu cyhoeddi’r gyfrol arbennig Cymry.Balch.Ifanc ym Mhalas Print, Caernarfon yng nghwmni un o olygwyr y gyfrol, Llŷr Titus mewn sgwrs gyda Rufus Benedict, un o gyfranwyr y llyfr.
Blodeugerdd bersonol a gonest o straeon 14 o gyfranwyr LHDTCRA+ gyda gwybodaeth ffeithiol am Pride Cymru yw’r gyfrol Cymry.Balch.Ifanc. Golygwyd gan yr awduron arobryn Llŷr Titus a Megan Angharad Hunter. Mae’r gyfrol yn anelu at hybu dealltwriaeth ac empathi tuag at y gymuned LHDTCRA+ drwy rannu profiadau personol. Arlunwaith trawiadol gan Mari Philips.
📍Palas Print, Caernarfon
🗓 17 Ionawr 2025, 6:00pm
Lluniaeth ysgafn ar gael.
Croeso cynnes i bawb!