‘Purity and Hope’: Aruni McShane mewn sgwrs gyda Gilly Adams
Purity and Hope yw’r casgliad cyhoeddedig cyntaf o waith Aruni McShane, bardd ac ysgrifwr o Sri Lanka y mae ei deunydd ysgrifenedig yn creu pont rhwng ei gwlad frodorol, Sri Lanka, a’i chartref mabwysiedig yng Nghymru.
Wrth i Sri Lanka ddathlu 75 mlynedd o annibyniaeth o Brydain, mae un o artistiaid mwyaf dawnus y wlad yn rhannu ei thaith ei hun tuag at annibyniaeth greadigol ac adnewyddu ei hunaniaeth ei hun, ac yn portreadu cariad ffyrnig, anhunanol mam at ei phlant.
Daeth Aruni McShane i’r DU i chwilio am ddiogelwch. Yn ystod y cyfnod byr y mae Aruni wedi byw yn Abertawe, mae eisoes wedi gwneud cyfraniad sylweddol at fywyd lleol drwy ei gweithgareddau gwirfoddoli. Mae wedi derbyn ac wedi rhoi cymorth. Enillodd Ysgoloriaeth Noddfa Prifysgol Abertawe yn 2022, ac mae’n darllen am ei gradd Meistr mewn ysgrifennu creadigol ar hyn o bryd.