Ymunwch â ni dros bum wythnos i ddarllen nofel gyntaf wych Shola von Reinhold, LOTE. Mae’r llyfr yn archwilio’r syniad o ail-fframio ac adennill hanes, iacháu’r presennol a dychmygu’r dyfodol, sef themâu allweddol arddangosfa unigol yr artist Leo Robinson, ‘The Infinity Card’, yn Oriel Chapter. Roedd LOTE wedi’i chynnwys ar y rhestr ddarllen a luniodd Leo i gyd-fynd â’r arddangosfa, a fe hefyd wnaeth ddylunio’r gwaith celf ar glawr y llyfr yng Nghanada.

Bob wythnos byddwn ni’n darllen penodau ymlaen llaw, ac yna’n dod at ein gilydd i drafod ac i archwilio’r nofel ymhellach. Bydd y sesiynau wythnosol hefyd yn cynnwys deunyddiau cyd-destunol, gan gynnwys cerddoriaeth, celf, ffilm a thestunau ychwanegol.

Mae’r grŵp darllen yn agored i bawb; mae’n lle i ddod ynghyd, myfyrio, meddwl a dysgu, nid yn unig o’r hyn y byddwn ni’n ei ddarllen ond hefyd gan ein gilydd. Mae’n lle ar gyfer gwahanol safbwyntiau, anghytuno adeiladol, parch at ein gilydd a gofal am ein gilydd.

Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer y grŵp darllen, byddwn ni’n anfon cynnwys darllen wythnos 1 atoch chi.

Cysylltwch â ni dros e-bost os oes angen copi o’r llyfr arnoch chi.

Dyddiadau

Wythnos 1 – 19 Ionawr 6.30pm-8pm

Wythnos 2 – 26 Ionawr 6.30pm-8pm

Wythnos 3 – 2 Chwefror 6.30pm-8pm

Wythnos 4 – 9 Chwefror 6.30pm-8pm

Wythnos 5 – 16 Chwefror 6.30pm-8pm

Disgrifiad o’r Llyfr:

Mae Mathilda unig wedi cael ei swyno ers tro gan ‘Bethau Ifanc Disglair’ yr ugeiniau, a thrwy ei bywyd, mae ei hymdrechion i ailddyfeisio wedi adlewyrchu eu celfyddyd a’u moethusrwydd. Ar ôl darganfod ffotograff o’r bardd modernaidd Du anghofiedig Hermia Druitt, a oedd yn yr un cylchoedd â’r Pethau Ifanc Disglair mae hi’n eu haddoli, mae Mathilda yn cael ei syfrdanu ac mae’n benderfynol o ddysgu cymaint â phosib am y ffigwr dirgel. Mae ei chwilota’n ei thywys at breswylfa ryfedd i artistiaid yn Dun, sef tre fach yn Ewrop lle roedd Hermia wedi bod yn byw yn ystod y tridegau. Mae’r breswylfa artistiaid yn mynd â hi’n ddyfnach i we o gyfrinachau a chymdeithasau cyfrinachol sy’n gafael yn ei dychymyg esthetig, ond a fydd hi’n gallu torri swyn ei diddordeb? O ddwyn siampên i Foderniaeth Ddu, i ddifrodi celf, alcemi a chyltiau comiwnyddol proto-foethus sy’n bwyta lotysau, mae taith Mathilda drwy ffyrdd o fynegiant esthetig yn mynd â hi at wirionedd a’r ffyrdd astrus y caiff ei greu a’i rwystro.

Enillydd Gwobr Republic of Consciousness, 2022

“Nofel benfeddwol sy’n archwilio, mewn sawl genre a ffurf—comedi o wallau, nofel encil ysgrifennu, llyfr mewn llyfr—dilead celf Ddu o waliau orielau, llyfrau hanes, ac archifau. . . . Mae brawddegau synhwyraidd Von Reinhold yn ymledu fel gwyrddni ethereal wrth i chi ddarllen.”

The Paris Review – Hannah Gold