Unity/Undod: Digwyddiad gair llafar a cherddoriaeth
Yn dilyn llwyddiant digwyddiad Undod y llynedd rydym yn cynnal y Digwyddiad Undod nesaf ar 8 Tachwedd
Mae Undod yn gynllun ar y cyd gyda Llanelli Unites yn dathlu a dod â’n cymunedau amrywiol at ei gilydd ar gyfer digwyddiad geiriau ar lafar a cherddoriaeth.
Yn 2025 roedd Bardd Cenedlaethol Cymru, Hanan Issa yma gyda cherddoriaeth gan Parisa Fouladi, a Charlie PSU ar yr allweddellau.
Wedi eu cadarnhau yn barod ar gyfer Digwyddiad Undod 8 Tachwedd:
Parisa Fouladi, sy’n artist o dras Cymreig Iranaidd o Gaerdydd.
Mae’n cyfuno canu ‘soul’, hip-hop a jazz gyda’i llais unigryw, llawn emosiwn, gan gael ei hysbrydoli gan artistiaid fel Sault, Cleo Sol ac Erykah Badu.
Mae ei cherddoriaeth yn archwilio ei hetifeddiaeth ddiwylliannol gymysg a’r cwestiynau sensitif am graffu ar yr hunan mewn cymdeithas anghytbwys.
Gwyliwch Parisa yn canu yn y fideo hwn.
Gwrandwch ar storïau gan yr awdur, bardd, dramodydd ac ymgyrchwr hawliau dynol o Cameroon, Eric Ngalle Charles.
Mae Undod yn ddigwyddiad am ddim ac mae croeso i bawb.
Dewch i ni ddod at ein gilydd fel cymuned i groesawu diwylliannau, ieithoedd a straeon ein gilydd.