‘Voyages and Vagabondages’: An exploration of travel writing and cultural identity Sophie Buchaillard a Richard Gwyn mewn sgwrs. Wedi’i gyflwyno gan Elaine Canning
Bydd yr awduron Sophie Buchaillard (‘Assimilation’; ‘This is Not Who We Are’) a Richard Gwyn (‘Ambassador of Nowhere’; ‘The Other Tiger’) yn rhannu eu profiad a’u gwybodaeth helaeth, gan archwilio pynciau teithio, teithiau, perthyn a hunaniaeth. Byddant yn trafod sut gall cofiannau a ffuglen ein helpu i ddeall ein hunain a’n cymdogion yn well.
Am yr awduron.
Mae Sophie Buchaillard yn nofelydd, yn draethodydd ac yn feirniad Ffrengig-Brydeinig, sydd wedi byw yn ne Cymru am ddau ddegawd, ar ôl teithio a byw’n helaeth dramor. Yn wreiddiol hyfforddodd fel gwyddonydd gwleidyddol a bu’n gweithio fel ymgyrchydd a strategydd. Gwnaeth gyd-ysgrifennu ‘Talented Women for a Successful Wales’, sef adroddiad ar wella cydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru. Mae ei PhD diweddar mewn Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol ‘Between Cultures: Travel Writing, Identity and the Global Novel’ yn archwilio rôl y nofel wrth ailddiffinio ein perthynas â theithio a hunaniaeth. Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf ‘This Is Not Who We Are’ (Seren, 2022) y rhestr fer ar gyfer Llyfr y Flwyddyn Cymru 2023. Cyfrannodd draethodau ar fudo i ‘Woman’s Wales’ (Parthian, 2024), a olygwyd gan Emma Schofield, ac i ‘An Open Door: New Travel Writing for a Precarious Century’ (Parthian, 2022) a olygwyd gan Steven Lovatt. Ar hyn o bryd mae’n ysgrifennu cofiant a chasgliad o farddoniaeth. ‘Assimilation’ yw ei hail nofel.
Mae Richard Gwyn yn awdur ac yn gyfieithydd o Gymru. Dechreuodd fel bardd, gan gyhoeddi pedwar casgliad, ac yn fwyaf diweddar ‘Stowaway: A Levantine Adventure’ (2018). Mae’n awdur tair nofel gan gynnwys ‘The Colour of a Dog’ ‘Running Away’ (2005) a gafodd ei chyfieithu i sawl iaith ac a arweiniodd at gydnabyddiaeth genedlaethol iddo. Mae’n gyfieithydd iaith Sbaeneg, gan arbenigo mewn barddoniaeth a ffuglen fer. Am bum mlynedd, bu’n teithio’n eang yn ne America, a arweiniodd at ‘The Other Tiger’ (2016), antholeg fawr o farddoniaeth gyfoes America Ladin a ddewiswyd ac a gyfieithwyd ganddo. Mae ei gyfieithiadau eraill yn cynnwys, o Sbaeneg, ‘Impossible Loves’ gan Darío Jaramillo ac ‘Invisible Dog’ gan Fabio Morábito. Am ddeng mlynedd bu’n Athro Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol ym Mhrifysgol Caerdydd. Fe yw awdur ‘Ricardo Blanco’s Blog’, y gellir dod o hyd iddo yn richardgwyn.me.