gyda Durre Shahwar, Nasia Sarwar-Skuse, ac eraill. 

Y trydydd o gyfres o ddigwyddiadau i awduron fel rhan o raglen datblygu awduron Cynrychioli Cymru.

Ymunwch â ni ar gyfer sesiwn greadigol, bywiog  fydd yn eich ysbrydoli ar y thema  ysgrifennu natur. Bydd y sesiwn yn cynnwys darlleniadau a thrafodaethau gan y Panel sydd i gyd yn cyfrannu at antholeg natur sydd ar y gweill. Nod y sesiwn yw ysbrydoli pawb i gamu allan a gwerthfawrogi’r natur o’u cwmpas tra hefyd yn taflu goleuni ar genre ysgrifennu natur a’r  broses o greu antholeg. 

Noder: Bydd rhaid cofrestru am y digwyddiad o flaen llaw.

Cofrestrwch yma.

Y Siaradwyr

Durre Shahwar 

Mae Durre Shahwar yn awdur, ymchwilydd, ac yn un o artistiaid Cymrodoriaethau Cymru’r Dyfodol (cydweithrediad rhwng Cyngor Celfyddau Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru). 

Mae ei gwaith wedi’i wreiddio mewn hwyluso cymunedol, ymchwil, a chreadigrwydd, gan groesi’r ffiniau rhwng ysgrif, hunan-ffuglen, barddoniaeth a cherddi prôs.. Mae Durre yn ymgeisydd PhD AHRC mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd, lle mae’n dysgu Ysgrifennu Creadigol. Mae ei gwaith wedi’i gyhoeddi mewn amryw o leoedd, yn cynnwys: Know Your Place: Essays on the Working Class (Dead Ink Books), We Shall Fight Until We Win (404 Ink), Homes For Heroes 100 (Festival of Ideas). Hi hefyd yw cyd-olygydd Just So You Know (Parthian Books).  

Nasia Sarwar-Skuse 

Mae Nasia Sarwar-Skuse yn awdur ac yn ymgeisydd PhD mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hi wedi bod yn gweithio fel hwylusydd ysgrifennu creadigol ers tair blynedd ac mae’n angerddol dros bresenoldeb dilysrwydd mewn llenyddiaeth gan leisiau ethnig a’i gysylltiadau gyda diaspora, rhywedd, a chof. Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Awdur Newydd gan Llenyddiaeth Cymru i Nasia yn 2019. Mae ei gwaith wedi ymddangos mewn nifer o gyhoeddiadau. 

Louisa Adjoa Parker

Mae Louisa Adjoa Parker yn awdur a bardd o dreftadaeth Prydeinig-Ghanaaidd sy’n byw yn ne orllewin Lloegr. Cyhoeddwyd ei chasgliadau barddoniaeth cyntaf gan Cinnamon Press, a fe gyhoeddwyd ei thrydedd, How to wear a skin, gan Indigo Dreams yn 2019. Cyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf o straeon byrion, Stay with me, yn 2020 gan Colenso Books. Cyhoeddwyd ei phamffled barddoniaeth, She can still sing, gan Flipped Eye ym mis Mehefin 2021, ac mae ganddi gofiant arfordirol ar y gweill gyda Little Toller Books. 

Mae ei barddoniaeth a rhyddiaith wedi ei gyhoeddi’n eang. Mae hi wedi derbyn canmoliaeth gan wobr Forward; fe’i enwebwyd dwywaith ar restr fer Gwobr Bridport; a derbyniodd canmoliaeth am ei cherdd alar, Kindness, gan Gystadleuaeth National Poetry 2019. Mae hi wedi perfformio ei gwaith yn ne orllewin Lloegr a thu hwnt ac wedi cynnal nifer o weithdai ysgrifennu. 

Mae Louisa wedi ysgrifennu’n estynedig am hanes ethnig amrywiol a hiliaeth cefn gwlad. Yn ogystal ag ysgrifennu, mae’n gweithio fel ymgynghorydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Mae hi’n siaradwr a hyfforddwr poblogaidd ar hiliaeth cefn gwlad, hanes pobl dduon, ac iechyd meddwl. 

Susmita Bhattacharya

Mae Susmita Bhattacharya yn awdur a aned yn India. Rhestrwyd ei nofel gyntaf, The Normal State of Mind (Parthian, 2015) ar restr hir Gŵyl Ffilm Mumbai, 2018. Enillodd ei chasgliad o straeon byrion, Table Manners (Dahlia Publishing, 2018) Wobr Saboteur am y Casgliad Straeon Byrion Gorau (2019) ac ymddangosodd yn rownd derfynol Gwobr Hall & Woodhouse DLF, 2019. Derbyniodd y casgliad hefyd cryn dipyn o sylw ar BBC Radio 4. Mae’n dysgu ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Caerwynt ac mae’n ymwneud â llawer o brosiectau creadigol a arweinir gan y gymuned yn Southampton ac y cyffiniau. Roedd hi’n awdur preswyl yn y Word Factory, Llundain yn 2021.

Taylor Edmonds

Mae Taylor Edmonds yn fardd, awdur, hwylusydd creadigol a rheolwr marchnata o Dde Cymru. Mae ei gwaith yn archwilio themâu megis benywdod, hunaniaeth, cysylltiad, natur a grymuso eraill. Bydd pamffled barddoniaeth gyntaf Taylor, Back Teeth, yn cael ei gyhoeddi ym mis Medi 22 gyda Broken Sleep Books. Hi oedd Bardd Preswyl 2021 Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.

Digwyddiadau eraill yn y gyfres:

Breaking Barriers to Getting Published

Llên a Llesiant