Drama, yn yr awyr agored, i’r teulu – comedi ddychanol llawn rhialtwch a thensiwn teuluol; colli ac ennill tir; barddoniaeth fydd neb yn deall… ond sdim ots am hynny achos MI FYDD YNA GADEIRIO!

Mae Mewn Cymeriad yn llwyfannu drama newydd sbon i’r teulu am un o arwyr y Deheubarth – Rhys ap Gruffydd. Honir taw Rhys ap Gruffydd, neu’r Arglwydd Rhys, adeiladodd y castell Cymreig cyntaf o gerrig yng Nghymru, ac yno, yn 1176, cynhaliodd yr Eisteddfod gyntaf erioed.
Tra’n cael lot fawr o hwyl, dyma gyfle i’r teulu cyfan ddysgu rhywfaint am un o arwyr y Deheubarth. Byddwn yn teithio rhai o’r cestyll ysblennydd, dan ofal Cadw, yn ystod mis Awst 2022.