Ymunwch ag Aled Jones Williams ar gyfer cwrs undydd fydd yn trin a thrafod y fonolog. Beth sy’n gwneud monolog dda? Beth sydd ei angen er mwyn mynd ati i lunio a chreu delwedd sy’n gafael? Boed chi ond yn cychwyn chwarae â geiriau neu eisoes yn seiri crefftus, cewch arweiniad a chyngor ar y cwrs hwn gan un o ddramodwyr mwyaf cynhyrchiol Cymru. Byddwch yn gadael gyda syniadau newydd a’r technegau sydd eu hangen er mwyn meistroli’ch crefft.

Bydd y cwrs yn rhedeg rhwng 11.00 am – 5.00 pm. Bydd te, coffi a melysion ar gael drwy’r dydd, a gweinir cinio ysgafn i bawb fel rhan o bris y cwrs.

 

Tiwtor

Aled Jones Williams

Aled Jones Williams

Dramodydd, llenor a bardd yw Aled Jones Williams, a achosodd peth trafodaeth yn 2008 gyda’i ddrama Iesu! gan iddo bortreadu Iesu fel menyw. Enillodd wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1994, 1995 a 1996 am ei ddramâu, Dyn Llnau BogsPêl Goch a Cnawd. Mae ei nofelau Rhaid i Ti Fyned y Daith Honno Dy HunYchydig Is Na’r Angylion ac Eneidiau oll wedi cyrraedd rhestr hir Gwobr Llyfr y Flwyddyn. Yn 2002 enillodd Aled Goron Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi am ei bryddest, ‘Awelon’.