Dewislen
English
Cysylltwch

8 awdur newydd yn mynychu cyfle datblygu rhad ac am ddim yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd

Cyhoeddwyd Llu 6 Tach 2023 - Gan Llenyddiaeth Cymru
8 awdur newydd yn mynychu cyfle datblygu rhad ac am ddim yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd
O'r chwith i'r dde. Rhes uchod: Jannat Ahmed, Sarah Asante-Gregory, Kate Cleaver, Lal Davies. Rhes isod: Lily Dyu, Chandrika Joshi, Tafsila Khan, Rosa Pouakouyou.

Wedi’i diwtora gan yr awdur a chyd-olygydd “Gathering” , cyfrol o ysgrifau ar natur, hinsawdd a thirwedd gan fenywod o liw (i’w gyhoeddi yn 2024, 404 Ink) Nasia Sarwar-Skuse, ynghyd â’r awdur gwadd, Noreen Masud, nod y cwrs oedd helpu’r awduron i ddatblygu ysgrifau eu hunain yn archwilio eu perthynas â byd natur.

Mae ymchwil yn dangos bod byd cadwraeth ac ysgrifennu natur yn parhau i gael eu dominyddu gan grŵp homogenaidd o awduron. Mae cynrychiolaeth a chydraddoldeb yn flaenoriaethau i Llenyddiaeth Cymru gan mai nod ein gwaith yw helpu i lunio sector sy’n cefnogi mynediad cyfartal i bawb drwy fynd i’r afael ag anghydraddoldebau hanesyddol a strwythurol a rhoi llwyfan i leisiau amrywiol. Cynlluniwyd y cwrs i ddathlu safbwyntiau newydd a helpu menywod o liw i hawlio gofod ym myd natur a’r byd llenyddol, tra hefyd yn tynnu sylw at fanteision llesol ymgysylltu â byd natur a llenyddiaeth.

Yn ddiweddar, cwblhaodd carfan Nodyn ar Natur eu cwrs preswyl wythnos o hyd yn Nhŷ Newydd, Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru. Yr wyth awdur a ddewiswyd oedd, Jannat Ahmed, Sarah Asante-Gregory, Kate Cleaver, Lal Davies, Lily Dyu, Chandrika Joshi, Tafsila Khan a Rosa Pouakouyou. Yn ystod y cwrs, a gynhaliwyd rhwng 25 – 29 Medi 2023, mynychodd yr awduron nifer o weithdai yn archwilio pynciau megis yr argyfwng hinsawdd, eco-ffeministiaeth a dadwladychu, ynghyd â sesiynau un-i-un, a chyfleodd i gerdded yn ardal leol Llŷn ac Eifionydd.

Nododd yr holl gyfranogwyr fod yr wythnos wedi cynyddu eu hyder yn eu hysgrifennu ac wedi caniatáu iddynt wneud cysylltiadau gwerthfawr ag awduron eraill.

Disgrifiodd Lily Dyu, un o gyfranogwyr y cwrs, yr wythnos fel y cyfryw:

“Rwy’n teimlo bod fy mywyd wedi newid er gwell ar ôl y cwrs hwn. Cefais fy nghyflwyno i awduron, pynciau ac arddulliau newydd o ysgrifennu natur sydd wedi gwneud i fy mhen droelli gyda phosibiliadau a syniadau. Ond y peth gorau oll oedd bod mewn grŵp lle roeddwn i’n teimlo fy mod yn cael fy ngweld, fy neall a fy nghefnogi yn fy nghreadigrwydd fel awdur benywaidd o liw.”

Bydd Llenyddiaeth Cymru yn parhau i gefnogi’r garfan o awduron, drwy drefnu sesiynau dilynol pwrpasol gyda’r tiwtor Nasia Sarwar-Skuse, parhau i feithrin y cysylltiadau rhwng yr awduron a hwyluso llwybrau at gyhoeddi.

Yr Awduron:

Ganed a magwyd Jannat Ahmed yn y Barri a hi yw cyd-sylfaenydd Lucent Dreaming, cylchgrawn ysgrifennu creadigol annibynnol a chyhoeddwr llyfrau. Yn ogystal â gweithio fel golygydd, mae hi’n fardd, awdur, darlunydd ac yn achlysurol, yn athrawes. Yn 2023 cyrhaeddodd rownd derfynol Gwobrau Dewi Sant cenedlaethol am ei chyfraniad at ddiwylliant. Mae hi wedi cyhoeddi cerddi yn Cheval 13, Poetry Wales a Poetry Birmingham ac wedi ysgrifennu ar gyfer Poetry London, The Poetry Review a Jerwood Arts.

Mae Sarah Asante-Gregory yn awdur a gafodd ei geni a’i magu yn Llundain, ac sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd ar ôl syrthio mewn cariad â’r bobl, y lle, a’r wleidyddiaeth. Ei breuddwyd yw bod yn awdur gan ei bod yn ystyried ei hysgrifennu fel modd o gysylltu ag eraill, gan hwyluso sgyrsiau dwfn ac ystyrlon sy’n ein galluogi i wneud synnwyr o’r byd o’n cwmpas. Yn 2020 sefydlodd gylch ysgrifennu a chwblhaodd gwrs academi Faber naw mis o hyd, o dan arweiniad Nikesh Shukla, i ddechrau ei llyfr cyntaf. Hyd yma mae hi wedi cyhoeddi erthyglau yn The Ecologist, Mother and Baby ac wedi cyflwyno TedxTalk. Mae hi wrth ei bodd â ffilmiau annibynnol sy’n siarad â’r galon, dail roced syth allan o’r paced ac ymdrochi ei hun mewn dŵr oer pan fo sawna gerllaw.

Mae Kate Cleaver yn awdur Eingl-Indiaidd anabl niwroamrywiol sydd newydd gwblhau ei PhD gyda Phrifysgol Abertawe. Roedd ei hymchwil yn canolbwyntio ar fywydau pobl gyffredin oedd wedi eu carcharu yn noddfa Llansawel, Vernon House. Yn 2019 cafodd ei henwi ar restr hir Gwobr Awduron Newydd Cymru ac mae ei chofiant wedi’i gyhoeddi gan Parthian yn y gyfrol ‘Just So You Know’ a gan Honno yn ‘Painting the Beauty Queens Orange’. Yn 2022 fe’i cyhoeddwyd yn ‘Land of Change: stories of struggle and solidarity from Wales’ ac yn 2023 enillodd ganmoliaeth uchel ar gyfer ei gwaith, ‘The King of Swansea’ gan Wobr Awduron Newydd Cymru. Mae hyn wedi arwain at ddetholiad o’r darn yn cael ei gyhoeddi’n rhifyn mis Medi o’r ‘New Welsh Reader’. Mae hi hefyd yn ysgrifennu colofn fisol i Nation Cymru o’r enw ‘The Cleaver’ ac yn ddiweddar mae hi wedi canolbwyntio fwyfwy ar fyd ysgrifennu byd natur.

Mae Lal Davies yn wneuthurwr ffilmiau, yn ffotograffydd ac yn fardd arobryn o Dde India ac o Dde’r Iwerddon. Mae ymarfer creadigol Lal yn cynnwys ysgrifennu darnau o safbwynt person cyntaf, gwneud ffilmiau dogfen byrion ac arbrofi gyda ffurfiau amlddisgyblaethol gan ddefnyddio ffilm, ffotograffiaeth, a barddoniaeth fel disgyblaethau unigol y ogystal â’r croestoriadau aneglur lle maent yn cwrdd.

Mae Lily Dyu yn byw ym Mhowys ac yn gweithio fel awdur a gweithiwr creadigol llawrydd. Mae natur yn thema ganolog yn ei gwaith ac mae hi wedi ysgrifennu pedwar llyfr i blant: ‘Earth Heroes’ (Nosy Crow, 2019) a gyrhaeddodd restr fer Gwobr Awduron Addysgol ALCS 2020, ‘Fantastic Female Adventurers’ (Shrine Bell, 2019) a gyrhaeddodd restr fer Gwobr Rubery 2020, ‘The World’s Wildest Places’, (DK Children, 2022), a ‘The Amazing Power of Activism’ (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2023). Ei hoff bethau yw rhedeg yn y mynyddoedd, gwersylla’n wyllt a gwylio’r awyr gyda’r nos, ac mae hi hefyd wedi ysgrifennu dau lawlyfr awyr agored – ‘Fastpacking: Multi DayRunning Adventures’ (Cicerone, 2018) a ‘BreconBeacons Trail Running’ (Vertebrat, 2018).

Mae Chandrika Joshi yn awdur, yn storïwr ac yn offeiriades Hindŵaidd. Symudodd i Gymru o Uganda yn ei harddegau a dechreuodd ysgrifennu dyddiadur fel modd o gatharsis iddi hi ei hun. Mae hi’n ysgrifennu cerddi a rhyddiaith. Cyhoeddwyd ei stori fer ‘fractured glass’ gan Artes Mundi yn 2021. Creodd stori i blant o’r enw ‘Y beic melyn’ ar gyfer Yr Archifau Cenedlaethol. Mae hi’n gobeithio ysgrifennu llyfr yn y dyfodol agos.

Mae Tafsila Khan yn ymgynghorydd mynediad dall cofrestredig ac yn wneuthurwr theatr yng Nghymru gydag angerdd am straeon go iawn sy’n rhoi llais i unigolion sydd heb gael cynrychiolaeth ddigonol yn y gorffennol. Mae hi’n benderfynol o greu newid cymdeithasol ac mae hygyrchedd yn greiddiol i’w gwaith wrth iddi geisio datblygu ymgysylltiad ehangach â’r celfyddydau. Mae Tafsila ar hyn o bryd yn gweithio gyda Taking Flight Theatre Co fel Cydlynydd Mynediad dan Hyfforddiant ac mae hefyd wedi gweithio gyda Chanolfan Mileniwm Cymru fel Cydymaith Creadigol. Ar hyn o bryd mae’n aelod o fwrdd National Theatre Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Awdur creadigol ac ymchwilydd datblygu rhyngwladol o Sir Fynwy yw Rosa Pouakouyou. Graddiodd o’r LSE a Phrifysgol Rhydychen gyda BA ac Mst mewn Hanes. Mae hi’n cael ei denu at amrywiaeth eang o genres, ond mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn ysgrifau, cofiannau, a ffuglen hanesyddol. Hoffai archwilio themâu byd natur, chwedloniaeth Gymreig a llên gwerin o safbwynt benywaidd. Mae’n gobeithio adeiladu rhwydwaith a fydd yn ei hannog i ddysgu o arferion eraill ac i fagu hyder fel awdur trwy gynnal deialog agored am ei gwaith.