Dewislen
English
Cysylltwch

Anrhydedd blwch post i Eloise Williams

Cyhoeddwyd Iau 4 Maw 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Anrhydedd blwch post i Eloise Williams

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi bod Children’s Laureate Wales, Eloise Williams, wedi’i dewis fel un o bum awdur plant sydd i dderbyn anrhydedd blwch post fel rhan o weithgareddau’r Post Brenhinol i ddathlu Diwrnod y Llyfr eleni.

I nodi Diwrnod y Llyfr 2021 (dydd Iau 4 Mawrth), mae’r Post Brenhinol wedi dadorchuddio pum blwch post arbennig ledled y DU, gan anrhydeddu awduron a darlunwyr sydd wedi bod yn gwneud gwaith rhyfeddol trwy ddefnyddio llenyddiaeth i helpu i ddiddanu plant a phobl ifanc yn ystod y cyfnod clo – un ohonynt yw Eloise Williams, ein Children’s Laureate Wales.

Mae gan bob blwch post ei ddyluniad unigryw ei hun sy’n dathlu gwaith yr awduron a’r darlunwyr. Maent wedi’u lleoli ledled y DU, ac i’w gweld yn Llundain, Caerdydd, Sheffield, Belffast ac Oban, yn agos at leoedd o arwyddocâd naill ai i’r awduron neu i’w gwaith. Bydd y blychau post yn cael eu haddurno am fis cyfan.

Mae pob blwch post ag elfen ddigidol iddo, sy’n cynnwys cod QR sy’n cludo’r defnyddiwr draw at adnoddau digidol rhad ac am ddim, er enghraifft sianel YouTube sy’n cynnig darlleniadau ar-lein am ddim, neu heriau ysgrifennu i blant.

Gellir dod o hyd i flwch post Eloise ar Stryd Ioan, yng nghanol dinas Caerdydd (CF10 1GN) ac mae wedi’i addurno mewn glas tywyll ac aur trawiadol, wedi’i ysbrydoli gan ei nofel boblogaidd, Gaslight (cyhoeddwyd gan Firefly Press, 2017). Mae’r blwch post yn arddangos cod QR, yn cyfeirio tuag at y dudalen we yma, sydd yn arddangos yr holl waith y mae Eloise wedi bod yn ei wneud ers mis Mawrth 2020 er mwyn parhau i ysbrydoli plant Cymru, gan gynnwys gosod heriau ysgrifennu wythnosol, rhannu gweithdai ysgrifennu digidol a llawer mwy.

Mae’r awduron a’r blychau post eraill yn cynnwys:

  • Cressida Cowell, Awdur Llawryfog Plant Waterstones ac awdur a darlunydd How To Train Your Dragon a The Wizards of Once. Mae ei blwch post, sydd wedi’i addurno â Hiccup a Toothless o How to Train Your Dragon, wedi’i leoli yn Oban, yr Alban, lle mae llongau fferi yn gadael i ynysoedd arfordir y gorllewin.
  • Nathan Bryon a Dapo Adeola, enillwyr Llyfr Plant y Flwyddyn Waterstones 2020. Mae llyfr bendigedig Nathan a Dapo am ferch ifanc ddu, sydd wrth ei bodd â gwyddoniaeth ac sy’n ceisio tynnu ei brawd oddi ar ei ffôn, yn ceisio herio canfyddiadau ynghylch hil a rhywedd. Mae’r blwch post melyn llachar i’w weld yn Shepherd’s Bush yn Llundain, lle ganwyd Nathan Bryon.
  • Julia Donaldson a Lydia Monks. Mae’r blwch post parseli melyn trawiadol hwn yn deyrnged bendigedig i waith darlunio hyfryd Lydia a Julia, yn enwedig eu cyfres ddiweddar o lyfrau What The Ladybird Heard. Mae’r blwch post hwn wedi’i leoli yn Sheffield, lle mae Lydia Monks yn byw.
  • Sam McBratney, awdur Guess How Much I Love You. Yn drist iawn, bu farw awdur un o’r llyfrau plant cyfoes mwyaf annwyl y llynedd, sef yr awdur Sam McBratney o Ogledd Iwerddon. Gobaith y Post Brenhinol yw y bydd y blwch post hardd hwn, ym man geni Sam yn Belfast, yn deyrnged addas i’w etifeddiaeth lenyddol.

Dywedodd Mark Street, Pennaeth Ymgyrchoedd y Post Brenhinol: “Heb os nac oni bai, mae’r DU yn gartref i rai o awduron plant gorau’r byd, ac mae’n galonogol gweld cymaint y mae rhai ohonynt wedi ei wneud dros y misoedd diwethaf er mwyn cadw hud llenyddiaeth yn fyw i blant. Fel un o warchodwyr y gair ysgrifenedig, mae’r Post Brenhinol yn falch o gael cyfle i ddathlu rhai o awduron mwyaf gwerthfawr Prydain yn ystod yr amseroedd digynsail hyn, ac mae’n addas tu hwnt bod eu gwaith anhygoel yn cael ei anrhydeddu ar rai o’n blychau post eiconig.”

Meddai Eloise Williams: “Rwy’n hynod falch o gael dadorchuddio’r blwch post arbennig hwn yng Nghaerdydd ar Ddiwrnod y Llyfr. Mae’r gymuned awduron yng Nghymru wir wedi ymateb i’r her o gefnogi pobl ifanc yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac rwy’n falch fy mod wedi gallu chwarae rhan fach yn hynny. Mae gweld sut mae plant wedi ymgysylltu â gweithgareddau ysgrifennu Children’s Laureate Wales wedi bod yn hyfryd.

Ni fu creadigrwydd erioed mor bwysig. Mae ganddo effaith gadarnhaol dibendraw ar lesiant ac iechyd meddwl ac mae’n rhoi llais a ffurf i bobl ifanc fynegi eu hunain. Gobeithio bod gweithgareddau Children’s Laureate Wales wedi galluogi pobl ifanc i fod yn chwareus, yn greadigol ac yn ddychmygus.”

Os fyddwch chi yn digwydd pasio heibio blwch post Eloise ar Stryd Ioan, cofiwch anfon eich lluniau atom trwy dagio @Laureate_Wales neu @LitWales ar Twitter; neu dewch o hyd i Llenyddiaeth Cymru ar Facebook neu Instagram.