Dewislen
English
Cysylltwch

Dathlu barddoniaeth yn y Senedd gyda Beirdd Plant Cymru

Cyhoeddwyd Iau 27 Gor 2023 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Dathlu barddoniaeth yn y Senedd gyda Beirdd Plant Cymru
Dydd Iau 6 Gorffennaf 2023, daeth dros 95 disgybl draw i’r Senedd yng Nghaerdydd i gymryd rhan mewn sesiwn dan arweiniad Casi Wyn, Bardd Plant Cymru a Connor Allen, y Children’s Laureate Wales.

Gall cyflwyno hud a lledrith straeon a geiriau yn gynnar ym mywyd rhywun olygu y bydd yr unigolyn hwnnw’n mwynhau llenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol gydol oes. Gan weithio yn y system addysg – o’r blynyddoedd cynnar i’r brifysgol – yn ogystal ag y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, un o nodau Llenyddiaeth Cymru yw ceisio ysgogi diddordeb a chwilfrydedd plant a phobl ifanc ym maes ysgrifennu creadigol a darllen. Mae dau o’n prif brosiectau, Bardd Plant Cymru a’r Children’s Laureate Wales, yn eirioli dros hawliau plant a phobl ifanc yn ogystal â’u cefnogi i ymateb yn greadigol i faterion cymdeithasol sy’n bwysig iddyn nhw.

Dyma oedd y drydedd yng nghyfres Dihuno’r Dychymyg Llenyddiaeth Cymru – rhaglen o naw digwyddiad yn adeiladau’r Senedd i ddathlu popeth barddonol, a chodi proffil barddoniaeth a’r gair llafar yng nghartref democratiaeth Cymru. Trefnir y rhaglen gan Llenyddiaeth Cymru, a noddwyd y digwyddiad yma gan Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth.

Cafwyd sesiwn gyda’r Bardd Plant, Casi Wyn, i ddechrau. Roedd y digwyddiad yn binicl i gyfresi o weithdai, ac yn gyfle i gyflwyno gwaith newydd a gyfansoddwyd ar y cyd â’r ysgolion. O’r llwyfan, rhannodd ddisgyblion Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad, Caerdydd eu cerddi yn cynnwys un yn dathlu ymweliad Beyoncé â’r brifddinas. Darllenodd ddisgyblion o Ysgol Pontyberem yn Sir Gâr eu llythyr at FIFA yn galw am gemau cyfrifiaduron yn Gymraeg, a cyflwynwyd cerddlythyr ar ffurf fideo gan ddisgyblion o Ysgol Glan Morfa, Abergele, yn annerch plant yr Wcráin. Cyn cyflwyno’r plant. Bydd y cerddi oll yn cael eu rhannu ar wefan Llenyddiaeth Cymru dros yr haf. Yn ogystal, canodd Casi ei cherdd Sŵn (Merch y Môr) a gyfansoddwyd yn ddiweddar â disgyblion Ysgol T Llew Jones, Llangrannog, ac adroddodd Tu Draw, cerdd a gyfansoddwyd fel rhan o brosiect Llais Dyslecsia.

Yn yr ail ran, cafwyd cyflwyniad gan Children’s Laureate Wales, Connor Allen. Cyhoeddodd Connor gyfrol o farddoniaeth yn ddiweddar, Miracles (Lucent Dreaming), oedd yn cynnwys nifer o gerddi a gyfansoddwyd fel rhan o’i weithdai gyda disgyblion ar draws y wlad. Gwahoddodd ddisgyblion o Ysgol Gynradd Afon y Felin ym Mhenybont i’r llwyfan i adrodd eu barddoniaeth nhw ar thema hunaniaeth, a chyflwynodd un o ddisgyblion St Albans Catholic Primary School yng Nghaerdydd gerdd roedd hi wedi ysgrifennu, wedi’i ysbrydoli gan Connor. Rhannodd Connor hefyd rai o’i brofiadau a’i sylwadau ar fod yn Children’s Laureate Wales, a darllen ei gerdd fwyaf diweddar.

Mae Bardd Plant Cymru a Children’s Laureate Wales yn ddwy rôl lysgenhadol genedlaethol sydd â’r nod o ysbrydoli a thanio dychymyg plant ar draws Cymru trwy lenyddiaeth. Yn achos y Bardd Plant Cymru, bwriad y cynllun yw ysbrydoli creadigrwydd trwy a gyda’r Gymraeg. Bydd pob Bardd Plant Cymru a Children’s Laureate Wales yn cyflawni dwy flynedd yn y rôl. Mae Casi a Connor wedi bod wrth eu gwaith ers mis Medi 2021; ym mis Medi eleni, mi fydd y ddau yn pasio’r awenau at Nia Morais ac Alex Wharton.

Mae rhagor o wybodaeth am y Bardd Plant Cymru a’r Children’s Laureate Wales ar ein gwefan.

Plant a Phobl Ifanc