Dewislen
English
Cysylltwch

Ar y Dibyn

Cyhoeddwyd Iau 29 Hyd 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Ar y Dibyn

Mae gennym ni gyd stôr o straeon sydd ddim yn cael eu clywed yn aml.

Mae prosiect Sgwennu ar y Dibyn, sydd yn bartneriaeth rhwng Theatr Genedlaethol Cymru, Llenyddiaeth Cymru ac Adra, yn rhoi cyfle i bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan ddibyniaeth – boed hynny’n bobl sy’n byw gyda dibyniaeth neu sy’n cefnogi pobl eraill gyda’u dibyniaeth – i ddod at ei gilydd a rhannu’r straeon hynny mewn ffordd greadigol.

Mewn gweithdai ysgrifennu a chreu theatr wythnosol yn ystod Tachwedd a Rhagfyr 2020, byddwn ni’n mentro gyda’n gilydd i ddathlu’r posibiliadau sydd gennym ni, nid rhwystrau dibyniaeth.

Bydd pob gweithdy yn llawn tasgau chwareus byrion i brocio ein dychymyg ac i ryddhau syniadau. Byddwn yn dechrau creu gwaith ysgrifenedig a’i ddatblygu o fewn y sesiynau, gan gefnogi’n gilydd i’w wthio ymhellach yn ein hamser ein hunain. Does dim atebion anghywir, dim ond llond trol o bosibiliadau. Mi fydd ’na chwerthin, sylwi ar bethau o’r newydd, colli deigryn neu ddau, ond hefyd ddathlu ein bod ni’n dal yma ac yn gweld y gorau yn ein gilydd.

Ein gobaith yw datblygu gwaith o’r galon sy’n bwerus, dewr ac uchelgeisiol, a darganfod ffyrdd o’i rannu yn ehangach (yn ddi-enw neu beidio).  Ein gweledigaeth yw creu lle diogel i fynegi ein hunain yn rhydd, heb feirniadaeth ac heb reidrwydd i ddatgelu dim am ein sefyllfa bersonol. Mae gennym oll brofiadau amrywiol o ddibyniaeth a bydd brwydrau personol pob unigolyn yn cael eu parchu a’u cadw’n ddiogel.

Yn y prosiect cychwynnol yn Galeri Caernarfon yn 2019, cafwyd darlleniad o’r gwaith a grëwyd i gynulleidfa oedd wedi eu gwahodd, ond byddwn ni’n ystyried ffyrdd creadigol eraill o drosglwyddo ein profiadau yn y cyfnod hwn.

Bydd arbenigwyr iechyd proffesiynol yn cyfrannu’n greadigol ym mhob sesiwn ac ar gael i roi unrhyw gyngor fel mae’r angen yn codi. Bydd hanner awr ar ddiwedd pob sesiwn i drafod yn anffurfiol ond nid oes unrhyw reidrwydd i fynychu’r rhain.

Cofrestrwch i ddangos diddordeb trwy anfon e-bost at creu@theatr.com, a gall Iola Ynyr, Artist Arweiniol y prosiect, drefnu sgwrs anffurfiol unigol i drafod unrhyw gwestiynau fyddai gennych. Rydyn ni’n awyddus i groesawu unrhyw un a hoffai ymuno â ni yn y gweithdai ac nid oes angen profiad blaenorol o sgwennu i gymryd rhan.

Os oes gennych chi unrhyw ystyriaethau allai eich rhwystro rhag cymryd rhan, cysylltwch er mwyn i ni geisio eu goresgyn. Rydym am greu prosiect sy’n rhoi mynediad i bawb a chynnig ffyrdd cynhwysol o gymryd rhan. Does yna ’run pryder yn rhy fach i’w drafod.

Am ragor o wybodaeth am brosiect Ar y Dibyn, ewch i: www.theatr.cymru/arydibyn

 

Partneriaeth rhwng Theatr Genedlaethol Cymru, Llenyddiaeth Cymru ac Adra (Tai) yw hwn, sy’n ehangu ar y ddau brosiect cynt a gyflwynwyd wyneb yn wyneb yn Galeri, Caernarfon.