Dewislen
English
Cysylltwch

Bardd Cenedlaethol Cymru, Hanan Issa, yn perfformio gyda Simon Armitage yn Llyfrgell Gladstone’s

Cyhoeddwyd Mer 29 Maw 2023 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Bardd Cenedlaethol Cymru, Hanan Issa, yn perfformio gyda Simon Armitage yn Llyfrgell Gladstone’s

Bu dau fardd o fri rhyngwladol yn perfformio mewn llyfrgell yn Sir y Fflint yr wythnos ddiwethaf.

Traddododd Bardd Cenedlaethol Cymru, Hanan Issa, a Bardd Llawryfog y DU, Simon Armitage, ddarlleniad awr o hyd yn Llyfrgell Gladstone ym Mhenarlâg ar 23 Mawrth – y ddau yn darllen detholiad o gerddi yn cyffwrdd ar y themâu cartref a lle. Gwerthwyd pob tocyn a mynychodd dros 70 o bobl y digwyddiad yn un o Ystafelloedd Darllen Llyfrgell Gladstone.

Arhosodd Hanan yn Llyfrgell Gladstone, llyfrgell breswyl, cyn y digwyddiad, lle bu’n perfformio barddoniaeth a oedd yn cyfuno Saesneg, Cymraeg ac Arabeg.

Dywedodd Hanan: “Llwyddais i wneud gwerth noson o waith mewn dwy awr yn yr Ystafelloedd Darllen. Mae’n fan lle mae ‘na ofod i bawb, nid i’r unigolyn yn unig.”

Mae Simon Armitage wedi cyhoeddi mwy na 30 o gyfrolau barddoniaeth, nofelau, gweithiau ffeithiol a drama dros ei yrfa, sydd wedi ymestyn dros bedwar degawd hyd yma.

Dywedodd Simon: “Mae wedi bod yn anhygoel ac yn fraint cael mynd i’r lleoedd hyn lle mae llawer o ddisgwyliadau a llawer o baratoi. Mae hefyd yn fraint meddwl y gall fy ‘nghelfyddyd ddod â llawer o lawenydd i bobl.”

Dywedodd Andrea Russell, Warden Llyfrgell Gladstone’s, ei bod hi wrth ei bodd gyda’r ymateb a dderbyniodd y beirdd.

“Hyfryd oedd bod yn rhan o Daith Llyfrgell y Llawryfion a chroesawu Hanan a Simon i Lyfrgell Gladstone am y tro cyntaf – a gobeithio nad dyma’r tro olaf,” meddai. ”Roedd ein cynulleidfa wedi’u swyno gan y cerddi a oedd yn gymysgedd o rai teimladwy, heriol a doniol.”