Dewislen
English
Cysylltwch

Bardd Cenedlaethol Cymru yn dathlu cysylltedd a rôl hanfodol canolfannau cyswllt yn cadw pawb mewn cysylltiad

Cyhoeddwyd Maw 9 Maw 2021 - Gan BT
Bardd Cenedlaethol Cymru yn dathlu cysylltedd a rôl hanfodol canolfannau cyswllt yn cadw pawb mewn cysylltiad
Ch - Dd: Keith Jones, Lyndsey Jones ac Ifor ap Glyn

Mae Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru, wedi cyfansoddi cerdd gomisiwn newydd o’r enw Sgyrsiau, sy’n dathlu rôl bwysig cysylltedd a gweithwyr canolfannau cyswllt yn cadw pawb mewn cysylltiad.

 

Comisiynwyd y gerdd – a ysgrifennwyd ar ffurf englyn milwr – gan BT i nodi cwblhau ailddatblygiad eu canolfan gwasanaeth cwsmeriaid ym Mangor.

Mae’r ganolfan yn darparu nifer o wasanaethau i’r cwmni, gan gynnwys llinell gymorth gwasanaeth cwsmeriaid Cymraeg BT.

Ym 1994, BT oedd yn un o’r cwmnïau mawr preifat cyntaf yn y DU i gyflwyno polisi dwyieithog gwirfoddol, sy’n cefnogi’r mwy na hanner miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae’r gerdd yn trafod pwysigrwydd cadw mewn cysylltiad a gwerth clywed llais clên lawr wifren ffôn.

Cafodd timau gwasanaeth cwsmeriaid rheng-flaen BT, gan gynnwys tîm gwasanaeth cwsmeriaid Cymraeg BT ym Mangor, eu dynodi’n weithwyr allweddol gan y llywodraeth ar ddechrau’r pandemig, ac maent wedi parhau i weithio trwy gydol y cyfnod, gyda mesurau diogelwch Covid-19 mewn lle.

Mae timau gwasanaeth cwsmeriaid BT wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y galwadau yn ystod y cyfnod, gyda llawer o gwsmeriaid yn galw i ofyn am fwy o gysylltedd i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, ac i alluogi dysgu a gweithio o gartref. Mae’r timau yma hefyd yn delio â chwsmeriaid sy’n wynebu sefyllfaoedd ariannol anodd, yn ogystal â chwsmeriaid bregus a’r rhai sy’n delio ag unigrwydd.

Dywedodd Keith Jones, aelod o dîm llinell gymorth cwsmeriaid Cymraeg BT ym Mangor: “Mae’n amlwg ei bod wedi bod yn gyfnod anodd i lawer o gwsmeriaid, felly os allwn ni gael y sgwrs gychwynnol yna a chlywed am unrhyw heriau ma nhw’n eu hwynebu, fel problemau iechyd neu faterion gwaith, rydym wedyn yn gwybod eu hamgylchiadau a gallwn eu helpu yn haws o ran eu cysylltedd.

“Mae COVID-19 hefyd wedi arwain at fwy o unigrwydd. Mae bod ar eu pennau eu hunain yn golygu nad yw llawer o gwsmeriaid yn gweld unrhyw un. Mae hyn yn gwneud yr alwad ffôn maen nhw’n ei gwneud i ni hyd yn oed yn bwysicach. Gallai fod yr unig sgwrs maen nhw’n ei chael y diwrnod neu’r wythnos honno.

“Mae bod yn lleol a phersonol yn rhan mor bwysig o’r hyn rydyn ni’n ei wneud, felly rydyn ni’n wirioneddol falch ein bod ni’n gallu rhoi cymorth i bobol, yn enwedig y rhai yn ein cymunedau sydd ei angen fwyaf.”

Mae hi’n flwyddyn ers i BT gwblhau eu hymrwymiad i ateb 100% o’u galwadau gwasanaeth cwsmeriaid i alwyr yn y DU ac Iwerddon, gyda’r nod o ddarparu gwasanaeth fwy personol a lleol i’w cwsmeriaid.

Dywedodd y tîm ym Mangor fod nifer o bobl sy’n galw yn gwybod bod llinell gymorth Cymraeg BT wedi’i lleoli yn y ddinas a bod hyn yn arwain at drafodaethau naturiol ynghylch ble maen nhw’n byw a chysylltiadau lleol.

Ychwanegodd Keith Jones: “Trwy gael y sgyrsiau hynny ar ddechrau’r alwad o ran ble maen nhw’n byw ac efallai sut mae’r tîm rygbi neu bêl-droed yn gwneud, ma’r elfen leol yna’n gwneud gwahaniaeth ac yn gwneud i’r cwsmer deimlo’n gartrefol. Mae’n golygu y gallwch chi wedyn fwrw ymlaen yn haws a delio’r â’r rheswm dros eu galwad.

“Mae llawer o’r cwsmeriaid sy’n ffonio’r linell hefyd yn gwerthfawrogi’r ffaith eu bod yn gallu delio â’u materion yn Gymraeg, ac mae llawer yn nodi hyn ar ddechrau’r alwad. Dyma iaith gyntaf llawer o aelwydydd ac mae yna lawer o bobl yn hapusach ac yn fwy hyderus yn trafod eu materion yn Gymraeg.”

Cyhoeddodd BT y llynedd y byddai eu canolfan ym Mangor – sydd yng nghanol y ddinas – yn cael ei ailddatblygu’n sylweddol er mwyn moderneiddio’r safle ar gyfer y 150 o staff sydd wedi’u lleoli yno ar hyn o bryd. Mae’r ailddatblygiad yn rhan o raglen ‘Better Workplace’ y cwmni. Bydd yn gweld BT yn lleihau nifer y lleoliadau swyddfa o fwy na 300 i oddeutu 30 ledled y DU, gan gynnwys Bangor a Chaerdydd sydd wedi’u cyhoeddi hyd yn hyn. Bydd cydweithwyr yn elwa o weithleoedd newydd ac wedi’u hadnewyddu wrth i’r cwmni foderneiddio.

Mae gwaith adnewyddu swyddfa Bangor bellach wedi’i gwblhau. Mae’r swyddfa gyfan wedi’i foderneiddio, gyda ystafelloedd cyfarfod newydd, ardaloedd ymlacio a’r dechnoleg gynadledda ddiweddaraf.

Dywedodd Nick Speed, Cyfarwyddwr BT Group yng Nghymru: “Mae’n wych cael y gwaith yma gan Fardd Cenedlaethol Cymru sy’n cyfleu yn berffaith pwysigrwydd cysylltedd a sgyrsiau. Ac i ddathlu cwblhau’r swyddfa ar ei newydd wedd ym Mangor.

“Dw i’n wirioneddol falch o’r rôl y mae fy nghydweithwyr wedi’i chwarae, yn cynnwys y tîm yma ym Mangor, yn cadw pawb mewn cysylltiad, yn enwedig cwsmeriaid a allai fod yn fregus.

“Dw i’n falch hefyd o’r gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig yn Gymraeg. Mae cwsmeriaid yn teimlo eu bod yn cael gwasanaeth lleol a mwy personol. Mae hybu defnydd o’r Gymraeg yn dda i’r iaith, ac i ni fel busnes. Dw i’n annog mwy o gwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg i ddefnyddio’r gwasanaethau hyn sydd ar gael.”

Sgyrsiau

Rhwydd iawn deialu rhyddhâd

o’n hiraeth, drwy gyd-siarad,

rhannu hwyl, rhannu eiliad…

 

A ffonio ein gorffennol

a ddaw â’r hen alaw ‘nôl

i swyno ein presennol…

 

Onid gwych yw clywed gwên

y lles clws sydd mewn llais clên,

fel gwefr yng ngofal gwifren?

 

Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru