Dewislen
English
Cysylltwch

Bardd Plant Cymru yn 20 oed

Cyhoeddwyd Mer 30 Medi 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Bardd Plant Cymru yn 20 oed
Eleni mae Llenyddiaeth Cymru a’i phartneriaid yn dathlu 20 mlynedd ers sefydlu cynllun Bardd Plant Cymru. Rhwng 12 -16 Hydref 2020 cynhelir wythnos yn llawn o weithgareddau cyffrous er mwyn dathlu’r pen-blwydd.

Mae Bardd Plant Cymru yn rôl lysgenhadol genedlaethol a gaiff ei dyfarnu i awdur Cymraeg bob dwy flynedd er mwyn cyflwyno barddoniaeth Gymraeg i blant mewn modd bywiog, deinamig a llawn hwyl – drwy weithdai, perfformiadau a gweithgareddau amrywiol. Y Bardd Plant Cymru presennol yw’r Prifardd Gruffudd Owen, ac ef yw’r unfed bardd ar bymtheg i ymgymryd â’r rôl ers sefydlu’r cynllun yn y flwyddyn 2000.

Bydd yr wythnos ddathlu yn cynnwys gweithdai barddoniaeth digidol am ddim ar gyfer gwahanol oedrannau, gan gynnwys ar gyfer dysgwyr Cymraeg; a chystadleuaeth i ysgolion ennill ymweliad gan Gruffudd Owen, pecyn llyfrau, a phrint wedi’i lofnodi gan bob un o’r 16 Bardd Plant Cymru ers dechrau’r cynllun yn y flwyddyn 2000.

Un o uchafbwyntiau’r wythnos bydd rhyddhau’r gerdd fideo ‘Bardd Plant Cymru yn 20 oed’ ar raglen Heno ar S4C nos Lun 12 Hydref. Mae Gruffudd Owen wedi cyfansoddi’r gerdd yn arbennig ar gyfer yr achlysur ac mae’n crynhoi cyffro a phwysigrwydd y cynllun. Mae’r fideo, sy’n disgrifio’r rôl fel ‘Doctor Who barddol’, hefyd yn cynnwys ymddangosiad gan bob un o’r cyn-feirdd plant – o Myrddin ap Dafydd i Casia Wiliam. Mae posteri deniadol o’r gerdd ar gael yn rhad ac am ddim o siopau llyfrau ar draws Cymru.

Mae prif weithgareddau’r wythnos i’w gweld isod:

Dydd Llun 12 Hydref: Rhyddhau cerdd fideo ‘Bardd Plant Cymru yn 20 oed’

Dydd Mawrth 13 Hydref: Gweithdy Digidol 1 – Cyfnod Sylfaen a Dysgwyr

Dydd Mercher 14 Hydref: Gweithdy Digidol 2 – Cyfnod Allweddol 2 (Bl. 3-6)

Dydd Iau 15 Hydref: Gweithdy Digidol 3 – Uwchradd (Bl. 7+)

Dydd Gwener 16 Hydref: Te parti Bardd Plant Cymru yn 20

Bydd y gweithdai digidol yn cael eu rhyddhau am 9am ar y dyddiau a nodir uchod, ar dudalen Bardd Plant Cymru. Mae’r gweithdai ar ffurf cyfresi o fideos byr bydd modd i athrawon eu chwarae o flaen y dosbarth, gyda thasgau amrywiol i’r plant eu cwblhau rhwng y fideos. Mae canllawiau i athrawon ar gael i’w is lwytho o’r wefan o flaen llaw.

Bydd modd dilyn y bwrlwm ar ein sianeli cymdeithasol, a bydd y gweithgareddau ar gael ar dudalen Bardd Plant Cymru. Ar ddydd Gwener 16 Hydref 2020 rydym yn annog pawb – boed yn ysgol, yn lyfrgell neu’n deulu – i ymuno i ddathlu pen-blwydd y cynllun trwy gynnal te parti, a rhannu lluniau neu fideos gyda ni:

Twitter: @BarddPlant / #BarddPlantCymru20

Facebook: Bardd Plant Cymru

E-bost: barddplant@llenyddiaethcymru.org

Bydd y llun gorau gan ysgol yn cael ei wobrwyo gydag ymweliad am ddim gan y Bardd Plant, pecyn llyfrau, a phrint arbennig wedi’i lofnodi.

Caiff cynllun Bardd Plant Cymru ei reoli gan Llenyddiaeth Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, S4C, Cyngor Llyfrau Cymru ac Urdd Gobaith Cymru.

 

Bardd Plant Cymru