Llenyddiaeth Cymru yn rhyddhau cerdd gyntaf Nia Morais fel Bardd Plant Cymru
Dewch i nabod Nia Morais, Bardd Plant Cymru:
Cerdd newydd, Tymor yr Afalau:
Saff dweud fod Nia wedi bod yn brysur iawn ers dechrau ei rôl fel Bardd Plant Cymru. Mae hi wedi gwneud sawl ymddangosiad ar y teledu a’r radio, gan gynnwys cyfweliadau ar Heno a Prynhawn Da, ac ar raglenni Aled Hughes a Ffion Dafis. Cafodd hefyd ei chyfweld ar Cymru Fyw, Cip, ac yn y Western Mail. Yn ogystal â’r gerdd newydd ‘Tymor yr Afalau’ mae hi hefyd wedi ysgrifennu cerdd arall fel Bardd Plant Cymru, sef Fel Merch, cerdd a gomisiynwyd gan Urdd Gobaith Cymru i ddathlu Cynhadledd Genedlaethol #FelMerch a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ym mis Hydref 2023.Mae Nia hefyd yn gweithio gyda phlant yn y dosbarth a thu hwnt. Er enghraifft, cynhaliodd weithdai yn Yr Egin ‘nôl ym Mis Hydref i ddathlu diwrnod T. Llew Jones gyda disgyblion blwyddyn 8 Ysgolion Uwchradd Sir Gaerfyrddin.
Mae cyfnod prysur o’i blaen hyd at y Nadolig hefyd. Bydd ar daith ddiwedd Tachwedd yn gweithio gyda disgyblion cynradd Cymraeg Sir y Fflint a Sir Ddinbych fel rhan o Ŵyl Gerallt yng Nghaerwys (24 – 26 Tachwedd), a bydd yn cynnal gweithdy am ddim ar ddydd Sadwrn yr Ŵyl. Os oes gennych chi blant (blynyddoedd 3 i 6) sydd eisiau ymuno, cysylltwch â barddplant@llendiathcymru.org am fanylion pellach ac i archebu lle.
Mae Nia yn edrych ymlaen at y flwyddyn newydd, yn arbennig at ymweld â mwy o ysgolion, cymryd rhan ym mhrosiect Criw Creu gyda Theatr Genedlaethol Cymru, gweithio gyda phlant Adran yr Urdd Grangetown, a gweithgareddau gyda’r Urdd yn Sir Faldwyn a’r Eisteddfod Genedlaethol yn Rhondda Cynon Taf.
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am brosiect Bardd Plant Cymru, a sut i gyd-weithio â Nia ar ei thudalen prosiect yma: Bardd Plant Cymru
Rydym wedi cyhoeddi hefyd gerdd gan Alex Wharton, y Children’s Laureate Wales ar gyfer 2023-2025. Ewch draw i’r dudalen brosiect i fwynhau.