Dewislen
English
Cysylltwch

Beirdd Cenedlaethol Cymru: Diolch, trosglwyddo awenau a throed ar y sbardun!

Cyhoeddwyd Maw 20 Medi 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Beirdd Cenedlaethol Cymru: Diolch, trosglwyddo awenau a throed ar y sbardun!
Roedd gan Gymru ddau Fardd Cenedlaethol dros yr haf wrth i Ifor ap Glyn a Hanan Issa rannu’r rôl mewn cyfnod o drosglwyddo’r awenau. Mewn digwyddiad yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn ddiweddar, trosglwyddwyd y rôl yn llawn i Hanan, ac mae Bardd Cenedlaethol newydd Cymru eisoes wedi dechrau tymor o deithio, o rwydweithio, ac o roi pensil ar bapur i ymateb yn greadigol i sawl peth sy’n agos at ei chalon.  

Dan arweiniad Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru, Leusa Llewelyn, roedd y digwyddiad hwn yn Nhŷ Newydd yn gyfle hefyd i ddiolch i Ifor ap Glyn am ei waith dros y chwe mlynedd ddiwethaf.  

Dywedodd Leusa:

“Mae Ifor ap Glyn wedi bod yn Fardd Cenedlaethol Cymru ers 2016; ac yntau’n fardd a chyfathrebwr gwych mae Ifor wedi bod yn lysgennad medrus, brwdfrydig a hael i Gymru. Rydyn ni’n diolch yn fawr iddo am ei gyfraniad, am ei eiriau cywrain a sensitif a’i barodrwydd di-flino bob amser.” 

Bu chwe blynedd Ifor ap Glyn yn Fardd Cenedlaethol Cymru yn rhai prysur ac amrywiol wrth iddo deithio’r byd yn perfformio, creu cysylltiadau a dathlu diwylliant Cymru. Bu ei gyfraniad mwyaf yng Nghymru; lluniodd gerddi i gofnodi achlysuron cenedlaethol ac arwain prosiectau amrywiol gan roi llwyfan i feirdd ac artistiaid eraill ein gwlad. Gellir gweld cerddi comisiwn Ifor ap Glyn a darllen am ei waith ar wefan Llenyddiaeth Cymru 

Bydd prosiect olaf Ifor ap Glyn yn ei rôl fel Bardd Cenedlaethol Cymru yn cael ei gyhoeddi ar-lein yn y dyddiau yn arwain at Ddiwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol ar 6 Hydref. Prosiect sy’n dathlu ieithoedd Cymru yw Swdocw Iaith a bydd chwech cerdd fideo mewn chwe iaith yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llenyddiaeth Cymru o 28 Medi ymlaen – cadwch lygad amdanynt! 

Penodwyd Hanan Issa fel Bardd Cenedlaethol Cymru nesaf yn mis Gorffennaf ac ers hynny y mae wedi derbyn llu o gomisiynau am gerddi a gwahoddiadau i gymryd rhan mewn gwyliau, cynadleddau a phrosiectau lu. Cyhoeddwyd hefyd mai Hanan yw Cymrawd Rhyngwladol Gŵyl y Gelli 2022/23.  

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi comisiynu dwy gerdd arbennig ganddi, un yn trafod yr argyfwng costau byw sy’n effeithio nifer o unigolion a theuluoedd yng Nghymru ar hyn o bryd, a’r llall i nodi Diwrnod Alzheimer y Byd ar 21 Medi 2022. Dyma fwy o fanylion am bopeth sydd ar y gweill gan Hanan Issa ac Ifor ap Glyn yn mis Medi: 

  • Dydd Mawrth 20 Medi: Darlleniad o gerdd newydd gan Hanan Issa a gomisiynwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru fel rhan o ŵyl ar-lein Dychmygu’r Dyfodol. Bydd Hanan Issa yn darllen ei cherdd a Iestyn Tyne yn darllen ei gyfieithiad Cymraeg. Gellir cofrestru ar gyfer yr ŵyl yma. 
  • Dydd Mercher 21 Medi: Rhyddhau cerdd gan Hanan Issa i nodi Diwrnod Alzheimer y Byd  
  • Dydd Llun 26 Medi: Rhyddhau cerdd gan Hanan Issa ar thema yr argyfwng costau byw   
  • Dydd Mercher 28 Medi – dydd Mercher 5 Hydref: Cyhoeddi cerddi fideo Swdocw Iaith, prosiect dan arweiniad Ifor ap Glyn, yr olaf yn ei rôl fel Bardd Cenedlaethol Cymru.