Dewislen
English
Cysylltwch

Cerdd fideo newydd gan Fardd Cenedlaethol Cymru am Lifogydd a Thywydd Eithafol

Cyhoeddwyd Gwe 14 Maw 2025 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cerdd fideo newydd gan Fardd Cenedlaethol Cymru am Lifogydd a Thywydd Eithafol
Mae cerdd fideo newydd Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru,yn ddarlun ingol o ddyfodol Cymru yn sgil yr argyfwng hinsawdd..

Wedi ei chyffwrdd gan straeon am effaith llifogydd ym Mhontypridd wedi stormydd Dennis a Bert, cydweithiodd Hanan Issa gyda’r gwneuthurwr ffilm Ruslan Pilyarov i gyfleu’r sefyllfa yn yr ardal trwy gerdd fideo. Comisiynwyd ‘Homes that Float / Catrefi sy’n Nofio’ gan Llenyddiaeth Cymru ac mae’n cael ei ryddhau ar Ddiwrnod Rhyngwladol Gweithredu dros Afonydd, 14 Mawrth 2025.

Gorlifodd yr Afon Taf ym Mhontypridd ym mis Tachwedd 2024 gan achosi difrod helaeth yn y dref ac mewn dros 300 eiddo. Roedd hyn gwta bedair blynedd wedi i’r ardal gael ei heffeithio’n ddifrifol gan lifogydd dinistriol Storm Dennis. Mae’r gerdd yn ffrwyth gwaith ymchwil helaeth, ac mae Hanan yn benodol ddiolchgar i Ganolfan Ecoleg a Hydroleg y DU am ddarparu gwybodaeth am risgiau Hydro-hinsawdd, ac i berchnogion busnes Storyville Books, Pontypridd, am fod mor hael yn rhannu eu profiadau.

Roedd y lluniau torcalonnus o Bontypridd a rannwyd ar y newyddion yng Nghymru a chwestiynau trigolion yr ardal am sut i warchod eu tref at y dyfodol yn adlewyrchu sefyllfaoedd ym mhob rhan o’r byd.

Mae cannoedd o gymunedau o amgylch y byd wedi cael eu dinistrio a’u colli yn sgil tywydd eithafol, llifogydd a sychder;

Trwy gyfleu darlun mor frawychus o Gymru’r dyfodol, mae Hanan yn ein galluogi i ddeall y dinistr sydd eisoes yn wynebu’r gwledydd hyn.

Meddai Hanan Issa: “Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith mai Cymru yw’r ail wlad fwyaf blaengar yn y byd o ran ailgylchu, ac mae hynny’n wych. Ond beth yw’r ots os bydd y tir yr ydym i gyd yn gofalu amdano yn cael ei golli i ddŵr?

“Mae llawer o’m cyd-feirdd yn arllwys eu pryderon i’w cerddi am y mater hwn – os mai beirdd yn wir yw bydwragedd realiti, dyma obeithio y gwelwn weithredu llawer mwy diriaethol cyn ei bod hi’n rhy hwyr.”

Meddai Ruslan Pilyarov: “Roedd gweithio ar ‘Homes that Float’ yn brofiad arbennig iawn i mi. Roedd cael cydweithio â Hanan Issa a chyfuno barddoniaeth â ffilm yn teimlo fel ffordd bwerus o adrodd y stori hon.

“Roedd clywed gan bobl sydd wedi’u heffeithio’n uniongyrchol gan lifogydd a dod â’u profiadau’n fyw ar y sgrin yn her ac yn gyfrifoldeb. Roedd yn wir yn atgyfnerthu pa mor bwysig yw defnyddio celf i amlygu materion go iawn.”

Dywedodd Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru: “Adloniant yw llenyddiaeth yn bennaf, ond mae rhai o weithiau llenyddol mwyaf nodedig ein hoes wedi cario rhybuddion. Yn y gerdd arbennig ond brawychus hon, mae Hanan wedi llwyddo i roi llais i’n hofnau, gan ein rhybuddio o’r sefyllfa sy’n wynebu Cymru os nad oes newid, ac yn cyfleu byd sy’n ein dychryn i weithredu.

Mae ein diolch yn fawr i Hanan am y cyfle i rannu cerdd fel hon, a gobeithiwn yn fawr y bydd yn ysgogi newid er gwell.”

Cyfieithiwyd  ‘Homes that Floats’ i’r Gymraeg gan Ifor ap Glyn. Gallwch ddarllen y cerddi yma a gwylio’r fideo yma.

Caiff rhaglen Bardd Cenedlaethol Cymru ei redeg gan Llenyddiaeth Cymru. Fel rhan o’u cynllun gwaith, mae’r beirdd yn cael eu comisiynu gan Llenyddiaeth Cymru i ysgrifennu cerddi sy’n cynrychioli Cymru a Chymreictod fodern. Gallai hynny fod yn ymatebion i ddigwyddiadau cyfredol o bwys, neu’n ddarnau sy’n tynnu sylw at faterion sy’n wynebu’n cymunedau, neu’n ddathlu llwyddiannau. Mae cerddi Hanan yn cael eu cyfieithu’n greadigol i’r Gymraeg. Gallwch ddarllen rhagor o waith Hanan yma: Cerddi Comisiwn a Gwaith Creadigol

* World’s 15 Countries with the Most People Exposed to River Floods | World Resources Institute