Dewislen
English
Cysylltwch

Cerdd Newydd gan Fardd Preswyl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

Cyhoeddwyd Llu 26 Gor 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cerdd Newydd gan Fardd Preswyl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

Fel arwydd o gefnogaeth i beilot UBI cyflawn, mae Taylor Edmonds, Bardd Preswyl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, wedi ysgrifennu cerdd newydd bwerus sy’n dychmygu Cymru’r dyfodol fel gwlad lle ‘bydd pawb yn cael digon o dâl i fyw bywyd gwerthchweil’.

 

Mae’r rhai sy’n cefnogi Incwm Sylfaenol Cyffredinol, gan gynnwys Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Sophie Howe, UBI Lab Cymru, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru a Chwarae Teg wedi ysgrifennu at Mark Drakeford yn gofyn iddo ehangu cynlluniau ar gyfer rhoi prawf ar y manteision a fyddai’n deillio o roi digon o arian i bobl ar gyfer eu hanghenion sylfaenol.

Mae incwm sylfaenol cyffredinol (UBI) yn daliad diamod lle mae llywodraeth yn talu cyflog sefydlog i bob unigolyn, waeth beth fo’i sefyllfa ariannol. Gwneir taliadau yn awtomatig, heb weithdrefnau fel ciwio a llenwi ffurflenni yn rheolaidd. Yn gynharach eleni, yn dilyn mudiad ledled Cymru, cyhoeddodd Mr Drakeford y byddai’n treialu incwm sylfaenol. Yn ddiweddarach, dywedodd Llywodraeth Cymru fod ganddi ddiddordeb mewn datblygu peilot bach, a allai, o bosib, gynnwys pobl sy’n gadael gofal.

Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, tlodi yw penderfynydd unigol mwyaf iechyd, ac mae afiechyd yn rhwystr i ddatblygiad cymdeithasol ac economaidd. Mae hyn yn golygu bod pobl dlotach yn byw bywydau byrrach ac mae ganddynt iechyd gwaeth na phobl gwell eu byd. Ym mis Mehefin, dywedodd adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru y gallai cyflwyno incwm sylfaenol olygu gwell iechyd a llesiant i bawb yng Nghymru.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ddefnyddio meddwl cydgysylltiedig i ddatblygu datrysiadau hirdymor ac atal problemau. Canfu arolwg barn ar ran Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol fod 69% o bobl yng Nghymru yn credu y dylem dreialu Incwm Sylfaenol a bod 25 o Aelodau’r Senedd wedi llofnodi Adduned UBI UBI Lab Wales.

Dywedodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, bod y cyfnod ffyrlo a fydd yn dod i ben ym mis Medi, ynghyd â diwedd yr ychwanegiad pandemig Credyd Cyffredinol o £20 yr wythnos, yn arwydd pellach o ddiffyg addasrwydd systemau presennol llesiant a gwaith i ateb y diben.

Mae Ms Howe eisiau i Aelodau’r Senedd siarad â phobl yn eu cymunedau’r haf hwn am y modd y gallai incwm sylfaenol eu cynorthwyo’n well yn yr hirdymor, ac i Mr Drakeford weithredu peilot UBI ar sail ddaearyddol fel rhan o’i raglen newydd ar gyfer y llywodraeth.

Yn ei Rhaglen Llywodraethu Addas ar gyfer y Dyfodol, mae’r comisiynydd yn galw ar i’r peilot gynnwys cyfranogwyr sydd wedi’u rhannu ar draws dwy gymuned benodol, mewn un rhanbarth trefol ac un rhanbarth gwledig yng Nghymru.

Meddai: “Mae’n bryd i ni dderbyn bod y system wedi torri a heb rwyd ddiogelwch gryfach, bydd cenedlaethau i ddod yn cael eu gadael ag etifeddiaeth o amddifadedd.

“Gallai UBI amddiffyn nid yn unig y rhai sy’n cael eu taro’n galed gan Covid ond pob un ohonom rhag siociau eraill sydd i ddod – fel yr argyfwng hinsawdd a fydd yn achosi mwy o ddinistr trwy dywydd eithafol fel tonnau gwres a llifogydd.

“Mae cadw pobl yn iach yn golygu gwneud pethau newydd i fynd i’r afael â thlodi, ac mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru achub y cyfle hwn yn awr i ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i ddangos sut y gall UBI newid bywydau.”

 

Reconsidering Future

Let’s rewrite the story.

In this version, your mother doesn’t take a second job,

no 50-hour week and empty seat at the table.

Without the weight of night shifts on her back

she goes to college, starts to dream

of soil-stained hands, a community garden,

of reading stories to the sleepy rhythm of your breath.

 

Your next-door neighbour lives.

His body lighter, he starts to paint, fills the walls

with hues of watercolour. The haunting

eviction and red-lettered final warnings

never come through the letterbox.

His children know only how to be children,

full-bellied, planning a trip to space,

to build a secret den in the treetops.

 

What kind of home is Wales

when a third of young people are living in poverty?

Let’s change the narrative, break the cycle

while our toes are curled at the brink.

Reverse queues for food banks,

end job insecurity, rising unemployment,

homelessness, the long wait for welfare

cheques that barely make ends meet.

 

We may fail and stumble,

but imagine a country

where everyone is paid enough to truly live.

Without the fear of losing it all,

who could you become?

Freedom to imagine, experiment, move

with purpose, defined by more

than a job title, possessions, productivity.

 

When we own our bodies,

I want you to just lay here in the grass

and breathe.

 

Taylor Edmonds,
Bardd Preswyl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Uncategorized @cy