Cerflun Cranogwen: Dathliadau beirdd cenedlaethol benywaidd Cymru
Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o nodi achlysur dadorchuddio cerflun hir ddisgwyliedig Cranogwen – Sarah Jane Rees (1839 – 1916) – gyda chomisiynau barddonol newydd. Dydd Sadwrn 10 Mehefin 2023 bydd diwrnod arbennig i gofio cyfraniad arloesol y bardd yn cael ei gynnal yn Llangrannog, a bydd dau gomisiwn creadigol newydd yn cael eu rhannu i ddathlu’r achlysur: un yn gywaith barddonol gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Hanan Issa a Bardd Plant Cymru, Casi Wyn a’r llall yn gân gan Casi Wyn a phlant Ysgol T Llew Jones.
‘Dywed, beth oedd ei chyfrinach?’ yw teitl cywaith newydd ar y cyd rhwng ein Bardd Cenedlaethol a Bardd Plant Cymru sydd yn gerdd ar ffurf ymgom rhwng y tir a’r môr, sydd yn adlewyrchu bywyd a chyfraniad Cranogwen. Cynhaliodd Bardd Plant Cymru Casi Wyn weithdy barddoniaeth ym Mrynhoffnant ym mis Mai phlant Ysgol Gymunedol T. Llew Jones, a canlyniad y gweithdy yw cân newydd sbon, ‘Sŵn’, a fydd yn cael ei pherfformio ar lan bedd Cranogwen. Clywyd y gân am y tro cyntaf fore dydd Iau ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru, a bydd y gweithiau i’w gweld yn gyflawn ar wefan Llenyddiaeth Cymru yn dilyn y dathliadau ddydd Sadwrn.
Comisiynwyd y ddau ddarn newydd gan Llenyddiaeth Cymru i ddathlu tri pheth; y cerflun newydd, gweithgarwch creadigol Cranogwen a’i gwaith yn eirioli dros hawliau merched yng Nghymru; a gwaith clodwiw gwirfoddolwyr mudiad Cerflun Cymunedol Cranogwen yn gwireddu’r uchelgais o godi cofeb i’r bardd o Langrannog.
Dyma’r trydydd cerflun a gomisiynwyd gan Monumental Welsh Women o ‘fenyw go iawn’ i’w chodi mewn man cyhoeddus awyr agored yng Nghymru, yn dilyn dadorchuddio Cofeb Betty Campbell yng Nghaerdydd yn 2021, a cherflun Elaine Morgan yn Aberpennar yn 2022. Cenhadaeth Monumental Welsh Women yw codi pump cerflun i anrhydeddu pump Cymraes mewn pum mlynedd.
Bydd y dadorchuddio yn ddathliad creadigol ac uchelgeisiol fydd yn adleisio elfennau o gyraeddiadau arloesol a niferus Cranogwen. Cranogwen oedd y ferch gyntaf i ennill gwobr barddol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Bydd yr Athro Mererid Hopwood, y ferch gyntaf i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol, yn llywio ar y diwrnod. Bydd llu o artistiaid yn rhan o’r digwyddiad yn ogystal â’r beirdd cenedlaethol, megis Qwerin ac Eddie Ladd, corau, a disgyblion ysgolion lleol.
Mae yna wahoddiad agored i bawb ymuno yn y dathliadau ddydd Sadwrn, fydd yn cychwyn gyda gorymdaith liwgar o wersyll yr Urdd, Llangrannog am 1.00pm. Bu Cranogwen yn llywydd ar Undeb Dirwestol Merched y De a bydd yr orymdaith yn talu teyrnged i’r gwaith hynny. Mae’r artist Meinir Mathias a grwpiau cymunedol lleol wedi creu baneri ar gyfer yr orymdaith ac mae’r bardd Mari George wedi ysgrifennu geiriau newydd i dôn Gwyr Harlech i bawb gyd-ganu ar y daith.
Y cerflunydd Sebastien Boyesen a gomisiynwyd ar gyfer creu’r cerflun ac mae wedi mynd ati i gynrychioli campau rhyfeddol Cranogwen mewn modd trawiadol ond cynnil, gan greu cofeb barhaol fydd yn sicrhau bod Cranogwen yn parhau i ysbrydoli tua’r dyfodol. Yn adleisio sut y bu Cranogwen yn annog talentau menywod mae Keziah Ferguson, cerflunydd benywaidd addawol wedi’i mentora yn ystod y prosiect, drwy weithio gyda Boyesen ar y comisiwn hwn.
Bydd y cerflun hir ddisgwyliedig yn cael ei leoli yng nghanol Llangrannog, yn yr ardd gymunedol ar ei newydd wedd, nepell o’r lle claddwyd Sarah Jane Rees ym mynwent yr Eglwys.