Dewislen
English
Cysylltwch

Charlotte Williams, Eric Ngalle Charles a Gabriel Gbadamosi yn trafod empathi a lleisiau newydd trawsddiwyllianol yng Nghymru

Cyhoeddwyd Gwe 30 Ebr 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Charlotte Williams, Eric Ngalle Charles a Gabriel Gbadamosi yn trafod empathi a lleisiau newydd trawsddiwyllianol yng Nghymru
Ar 25 Mai 2021 bydd digwyddiad gan WritersMosaic mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru a Chapter, yn archwilio ystyr empathi yng nghwmni Charlotte Williams, Eric Ngalle Charles a Gabriel Gbadamosi.

Mae ‘empathi’ yn derm sydd yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru ar gyfer cenedlaetholdeb ac amlddiwylliannaeth. Mae gwell gallu i ddangos empathi yn rhan o genhadaeth Llenyddiaeth Cymru, ac yn cael ei adlewyrchu’n glir yng ngherdd gyfoes Apêl DEC gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn.

Beth yw empathi? Pam ei fod yn cyseinio’n fwy yng Nghymru nac yn unman arall? Sut y mae lleisiau trawsddiwyllannol wedi eu gwreiddio yn nhirwedd lenyddol a diwylliannol Cymru? Beth yw rhan Cymru mewn sgwrs ryngwladol?

Bydd y bardd, dramodydd, nofelydd, a sylfaenydd a golygydd y WritersMosaic Gabreil Gbadamosi yn trafod ystyr empathi â’r academydd a’r awdur o etifedd Cymraeg a Guyanaidd Charlotte Williams  ac Eric Ngalle Charles sydd awdur, bardd a dramodydd sy’n byw yng Nghymru ac yn enedigol o Gameroon. Caiff Charlotte Williams ei hadnabod am ei hysgrif, A Tolerant Nation?, a dorrodd dir newydd wrth archwilio amrywiaeth ethnig yng Nghymru, yn ogystal â chofiant sydd wedi ennill sawl gwobr, Sugar and Slate sy’n trafod ei magwraeth yng Nghymru fel person hil gymysg, gan gynnwys gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2003. Ers 2020, mae hi wedi bod yn arwain gwaith academaidd ar addysgu am hanes Cymru fel cenedl sydd wedi’i selio ar gyfoeth yr amrywiaeth a’r gwahaniaethau. Fel ffoadur fe deithiodd Eric Ngalle Charles draw o Gameroon i Rwsia ac yna i Gymru, ble mae erbyn hyn yn byw ac yn gweithio. Mae ar Fwrdd Rheoli Llenyddiaeth Cymru, ac yn cyfrannu fel golygydd i flodeugerdd Cymru Cameroon, Hiraeth-Erzolirzol. Mae ei ddramâu wedi cael eu perfformio  yng nghanolfan Southbank Llundain, Gŵyl y Gelli ac yng Ngŵyl Llandeilo, ymysg eraill.

Mae’r digwyddiad unigryw hwn wedi cael ei drefnu gan y WritersMosaic, platfform ar-lein sydd wedi ei ariannu gan y Gronfa Llenyddiaeth Frenhinol ar gyfer amrywiaeth o leisiau a diwylliannau llenyddol ar draws y DU, mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru a Chapter. Mae rhagor o fanylion yma.