Chwe hwylusydd llenyddol ar fin dechrau rhaglen ddatblygu dwys dros y 12 mis nesaf

Sgwennu’n Well | Writing Well yw ein rhaglen ddatblygu ar gyfer ymarferwyr llenyddol yng Nghymru. Mae’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau a gwybodaeth hwyluswyr llenyddol, yn benodol ym maes Iechyd a Llesiant. Mae hon yn rhaglen blwyddyn o hyd ar gyfer grŵp o hwyluswyr ar gychwyn neu ganol eu gyrfa, ac mae’n cynnwys sesiynau mentora, ysgoloriaeth o £2,000, cyfres o bum sesiwn hyfforddi arlein, cwrs preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd a mwy.
Bydd y chwe mis cyntaf yn cynnig cyfleoedd i fireinio sgiliau mewn meysydd fel datblygu a rheoli prosiectau, rhedeg cyllidebau, nodi a chyfathrebu effaith, diogelu eu grwpiau, codi arian a mwy. Bydd y grŵp hefyd yn archwilio theori ac ymarfer cynnal prosiectau llenyddiaeth er mwyn iechyd a lles ar gyfer amrywiaeth eang o gyfranogwyr mewn lleoliadau amrywiol. Yn dilyn y rhaglen hyfforddi chwe-mis gychwynnol, y bwriad yw cynnig cronfa o gyllid i hwyluswyr i gyflawni prosiectau y maent wedi’u dylunio a’u cynllunio yn ystod camau cychwynnol y rhaglen.
Roedd yr alwad agored, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2023, wedi ennyn diddordeb mawr, ac ar ôl pwyso a mesur yn ofalus, mae’r panel wedi dethol chwe hwylusydd a fydd yn elwa o’r rhaglen yn 2023-2024:
- Elan Grug Muse
- Helen McSherry
- Lottie Williams
- Steffan Phillips
- Emma Smith-Barton
- Sian Elizabeth Hughes
Darllenwch ragor am bob un o’r hwyluswyr gan gynnwys eu gobeithion am y rhaglen ar dudalen wefan Sgwennu’n Well.