C’mon Cymru | Cerdd Gomisiwn gan Ifor ap Glyn
Cyhoeddwyd Iau 3 Medi 2020

Llun - Ffion Eluned
Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru yw Bardd y Mis BBC Radio Cymru y mis hwn. Dyma ei gerdd gomisiwn cyntaf, C’mon Cymru, wrth i dîm pêl-droed Cymru baratoi i wynebu’r Ffindir heno yn eu gêm agoriadol yng Nghynghrair y Cenhedloedd. Bydd Ifor yn westai ar raglen Dewi Llwyd ar BBC Radio Cymru fore Sul 6 Medi am 8 o’r gloch.
C’mon Cymru
(cyn gemau Cynghrair y Cenhedloedd, Medi 2020)
Gwyliais fy ngwlad o bell
sawl tro cyn hyn:
– yn alltud gwaith,
mewn pybs anghyfiaith,
anghymunedol;
neu’n soffa-warchod ‘mhlantos nôl-a-mlaen,
a’u synnu gyda ‘ngweiddi ofer ar y sgrîn,
a’r rhychu carped ar fy nwy benglin
wrth ewyllysio gôl!
Tro hwn, ‘run faciwm
sy’n ein gwahodd, un ac oll…
O bell, clustfeiniwn ar y sgwrs ar gae
sy’n tystio fod ein gobaith yn parhau,
ac un ar ddeg yn gwadu nad ŷm ni’n
rhy fach, rhy dlawd, rhy dwp, i hawlio’n lle.
A dygwn hynny nôl o’r stadiwm wag
i bob cynefin, cario’r sgwrs ymlaen:
cans onid llesol i bob enaid coch cytûn,
gael bod yn rhan o Gymru
sydd yn fwy na fo ei hun?
Ifor ap Glyn