Cofiwch Epynt, cerdd gomisiwn gan Ifor ap Glyn

80 mlynedd yn ôl i’r mis hwn, ym Mehefin 1940, symudwyd cymuned amaethyddol Mynydd Epynt o’u cynefin er mwyn i’r Weinyddiaeth Amddiffyn gael gofod i ymarfer magnelau.
Roedd yr Ail Ryfel Byd wedi dechrau, a dywedwyd fod gwacáu yr ardal yn rhan o’r ymdrech rhyfel. Bu’n rhaid i dros 200 o ddynion, gwragedd a phlant adael eu cartrefi. Fe’u dadwreiddwyd o’r gymuned Gymraeg ei hiaith ac ni chawsant ddychwelyd, na’u digolledu.
Dyma gerdd gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, a gomisiynwyd gan Llenyddiaeth Cymru i gofio cymuned Epynt.
Cofiwch Epynt
30.6.20
(Ym Mehefin 1940, trowyd 219 o Gymry allan o’u cartrefi ar Fynydd Epynt i greu lle ymarfer saethu. Dyna’r diwedd i Ysgol Cilieni, Capel y Babell a 54 o ffermydd; cymuned gyfan… )
Dim ond tanbelennau
sy’n troi’r tir yn Llwynteg- ucha,
yn Waunlwyd, yn Abercriban a Chwm Car…
Erwau’r magnel yw’r Epynt yn awr;
a baner goch ‘sa draw’ yn cwhwfan,
lle bu cynfas gwyn mewn cae, i alw cymydog gynt,
o Gelli Gaeth, Ffrwd Wen neu Ddôl Fawr…
Ni fydd neb yn twymo’r Babell
cyn y plygain mwy;
ni fydd lampau stabal
yn sgwennu’u ffordd drwy gaeau’r nos
o Flaenysgirfawr, Cefncyrnog na Thir Bach…
Canys curwyd y sychau’n gleddyfau;
gwnaed gwayffyn o’r pladuriau
er mwyn ‘marfer rhyfel yma,
yn Ffos yr Hwyed a Gwybedog,
yng Ngharllwyn a Llwyn onn…
Ond er bod yr hen fygythiad
yn atseinio ‘Mrycheiniog o hyd,
a dim golwg o’r cadoediad
ym Mlaenegnant Isa,
Cefn Ioli, na Disgwylfa,
cadwn yr enwau, fel lampau ynghynn;
ailaredig atgofion a wnawn, o bell,
a chanwn ym mhabell ein tystiolaeth
am Bant mawr a Rhyd y maen…
Brynmelyn a Brynmeheryn…
Beili Richard a Blaentalar…
Llawrdole a Llwyn Coll…
Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru
Cliciwch yma i ddarllen rhagor o gerddi comisiwn Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn.