Dewislen
English
Cysylltwch

Croesawu Kathod i Dŷ Newydd

Cyhoeddwyd Iau 22 Chw 2024 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Croesawu Kathod i Dŷ Newydd
Heddiw mae Llenyddiaeth Cymru a phrosiect Kathod yn falch iawn o gyhoeddi enwau’r deg artist sydd wedi eu dethol i fynychu Encil Kathod.
Nod yr encil, sydd ar gyfer menywod ac unigolion o rywiau ymylol, yw cyfuno barddoniaeth llafar a cherddoriaeth mewn modd cyffrous, arloesol a chyfoes. Cynhelir yr encil yn rhad ac am ddim i’r cyfranogwyr yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd o Ddydd Gwener 23 Chwefror – Dydd Mawrth 27 Chwefror 2024.
Yn ystod yr wythnos, bydd yr holl artistiaid – y cyfranogwyr a chydlynwyr prosiect Kathod – yn archwilio gwahanol themâu a ffurfiau barddonol a cherddorol. Yn ymuno i arwain sesiynau bydd y cynhyrchydd arobryn, Branwen Munn a’r bardd llafar a’r artist aml-gyfrwng Rufus Mufasa. Mi fydd yna ambell i artist gwadd hefyd yn ymuno â’r grŵp yn ystod yr wythnos megis y bardd llafar enedigol o Gaerdydd, Jaffrin Khan ac yr eicon o sin gerddoriaeth Cymru, Pat Morgan. Bydd Cydlynwyr Kathod (Heledd Watkins, Bethan Mai, Catrin Morris, Tegwen Bruce-Deans a Llio Maddocks) hefyd wrth law yn ystod yr wythnos i hwyluso sgyrsiau a sesiynau creadigol. Mewn awyrgylch cynhwysol, anffurfiol a chreadigol, bydd yr artistiaid yn cyd-annog ei gilydd i arbrofi gyda’r ddwy ffurf law yn llaw.

Meddai Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru:

“Cyffrous tu hwnt yw cael cydweithio â phrosiect Kathod a chael cynnig gofod Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd i griw mor dalentog o artistiaid a’u galluogi i ddod at ei gilydd i arbrofi a chreu. Fel sefydliad, rydym yn awyddus i wthio ffiniau llenyddiaeth ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld a chlywed yr hyn a gynhyrchir yn ystod yr wythnos arbennig ac unigryw hon.”

Yr artistiaid fydd yn mynychu’r encil yw Catrin Herbert, clare e. potter, Elan Rhys, Elen Ifan, Kayley Roberts, Keziah, Melda Lois, Martha Owen, Megg Lloyd a Nia Jones. Mae’r artistiaid wedi eu lleoli ledled Cymru ac i gyd yn meddu ar brofiadau creadigol amrywiol o chwarae gyda sain a geiriau. Yn ystod yr wythnos bydd y deg ohonynt yn creu ac yn arbrofi â’i gilydd yn ogystal â neilltuo amser i’w prosiectau eu hunain.

Yn dilyn yr encil, bydd Llenyddiaeth Cymru yn cadw mewn cysylltiad gyda’r deg artist er mwyn cefnogi eu datblygiad ymhellach. Mi fydd y deg artist hefyd yn parhau i gydweithio gyda chydlynwyr Kathod a chyfrannu at eu prosiectau amrywiol ar y gweill.

Ewch draw i dudalen prosiect yr Encil am ragor o wybodaeth am y cyfranogwyr, yr hwyluswyr creadigol a Phrosiect Kathod.