Dewislen
English
Cysylltwch

Cyfle datblygu newydd sbon i hwyluswyr llenyddol

Cyhoeddwyd Iau 11 Mai 2023 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cyfle datblygu newydd sbon i hwyluswyr llenyddol
Ydych chi’n fardd neu’n awdur sydd eisiau datblygu eich sgiliau wrth gyflwyno gweithgareddau ysgrifennu creadigol yn eich cymuned leol? Ydych chi’n credu yng ngrym llenyddiaeth i ysbrydoli, gwella a chyfoethogi bywydau? Ydych chi’n llawn angerdd dros archwilio sut y gall cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol gefnogi iechyd meddwl, gwella hunanhyder neu oresgyn trawma? Yna rydyn ni eisiau clywed gennych chi.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o lansio cyfle datblygu newydd sbon ar gyfer hwyluswyr llenyddol. Mae Sgwennu’n Well | Writing Well yn rhaglen mewn dwy ran. Mae rhan un yn cynnig hyfforddiant dwys gyda’r nod o wella’r sgiliau sydd eu hangen i hwyluso gweithgareddau llenyddol yn y gymuned, a bydd rhan dau yn cefnogi’r garfan o hwyluswyr i greu a chyflwyno prosiectau cyfranogi sydd o fudd i iechyd a llesiant y cyfranogwyr.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 5.00 pm, dydd Iau 29 Mehefin 2023

Mae’r rhaglen yn cynnwys sesiynau mentora, ysgoloriaeth o £1,000, cyfres o bum sesiwn hyfforddi arlein, cwrs preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd a mwy.

Bydd y chwe mis cyntaf yn cynnig cyfleoedd i fireinio sgiliau mewn meysydd fel datblygu a rheoli prosiectau, rhedeg cyllidebau, nodi a chyfathrebu effaith, diogelu eu grwpiau, codi arian a mwy. Bydd y grŵp hefyd yn archwilio theori ac ymarfer cynnal prosiectau llenyddiaeth er mwyn iechyd a lles ar gyfer amrywiaeth eang o gyfranogwyr mewn lleoliadau amrywiol.

Yn dilyn y rhaglen hyfforddi chwe-mis gychwynnol, y bwriad yw cynnig cronfa o gyllid i hwyluswyr i gyflawni prosiectau y maent wedi’u dylunio a’u cynllunio yn ystod camau cychwynnol y rhaglen.

I ddarllen y manylion yn llawn, gan gynnwys beth yn union mae’r rhaglen yn ei olygu, beth yw’r meini prawf cymhwysedd, a sut i wneud cais, ewch i dudalen brosiect Sgwennu’n Well.