Dewislen
English
Cysylltwch

Cyhoeddi cyfrolau newydd yn sgil cynnal cyrsiau ysgrifennu a darlunio

Cyhoeddwyd Mer 28 Hyd 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Mae cyrsiau i ddatblygu awduron a darlunwyr newydd, a drefnwyd ar y cyd gan Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru, yn dechrau dwyn ffrwyth.

Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae nifer o lyfrau gwahanol wedi’u cyhoeddi neu ar fin eu cyhoeddi gan awduron a darlunwyr a fu ar y cyrsiau yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy, Gwynedd.

Cynhaliwyd un cwrs ar gyfer Ysgrifennu a Darlunio i Blant ym mis Chwefror 2019, a chwrs arall ar Ysgrifennu i Oedolion Ifanc ym mis Chwefror 2020, gyda chyfanswm o 20 awdur ac 8 darlunydd yn sicrhau eu lle fel rhan o broses gystadleuol.

Dywedodd Leusa Llewelyn ar ran Llenyddiaeth Cymru:

“Mae wedi bod yn bleser cael cydweithio â’r Cyngor Llyfrau ar y cyrsiau datblygu awduron yma, a gweld cystal llwyddiant mae sawl un o’r awduron wedi ei gael ar ôl treulio wythnos yn Nhŷ Newydd dan ofal rhai o’n hawduron a’n tiwtoriaid gorau. Byddwn yn parhau i weithio gyda’n gilydd i adnabod bylchau yn niwylliant llenyddol Cymru – gan fynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu o ran tangynrychiolaeth ac amrywiaeth yn ein llenyddiaeth – a chreu cyfleoedd datblygu safonol i sicrhau fod y gwaith pwysig hwn yn parhau.”

Dywedodd Helen Jones, Pennaeth Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru:

“Allwn ni ddim hawlio na fyddai’r llyfrau yma wedi’u cyhoeddi o gwbl oni bai am y cyrsiau a drefnwyd ar y cyd gan y Cyngor Llyfrau a Llenyddiaeth Cymru, ond yn ddi-os maen nhw wedi helpu i ddatblygu egin awduron a llenwi bwlch yn y farchnad ar gyfer deunydd darllen gwreiddiol yn y Gymraeg i blant ac oedolion ifanc. Mae datblygu deunydd darllen o’r fath yn un o’n blaenoriaethau ni yn y Cyngor Llyfrau wrth i ni barhau i weithredu ar argymhellion adroddiad Dr Siwan Rosser o Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd.”

Dywedodd Sioned Wyn Roberts, fu ar y cwrs Ysgrifennu a Darlunio i Blant yn 2019:

“Wnes i fwynhau pob eiliad o’r cwrs ysgrifennu a darlunio i blant. Yn Nhŷ Newydd wnes i gyfarfod yr arlunydd Bethan Mai sydd wedi dod â chymeriad Ffwlbart Ffred yn fyw, ac mae hyd yn oed sinc pinc yr Arglwyddes Lloyd George yn rhan o’r lluniau! Fyswn i erioed wedi ystyried ysgrifennu llyfrau oni bai am y cwrs yn Nhŷ Newydd ac o ganlyniad mae Ffwlbart Ffred: Drewi fel Ffwlbart, y cyntaf mewn cyfres o lyfrau stori-a-llun, wedi ei gyhoeddi eleni a bydd Gwag y Nos, fy nofel i blant, allan y flwyddyn nesa.”

Ymhlith y llyfrau sydd wedi’u cyhoeddi neu sydd yn y broses o gael eu cyhoeddi gan awduron a darlunwyr a fu ar y cyrsiau y mae:

    • Nain Nain Nain (Gwasg y Bwthyn, 2019) – geiriau gan Rhian Cadwaladr a lluniau gan Jac Jones (fu’n diwtor ar y cwrs Ysgrifennu a Darlunio i Blant)

    • Gwag y Nos (Atebol, 2021) – geiriau gan Sioned Wyn Roberts

    • Amser Canu, Blant (Rily, 2020) – lluniau gan Leonie Servini (a dau lyfr arall ar y gweill)

    • Ynyr yr Ysbryd (Gwasg Carreg Gwalch, 2020) – geiriau gan Rhian Cadwaladr a lluniau gan Leri Tecwyn

Daeth llwyddiant hefyd i ran Seran Dolma o Benrhyndeudraeth ym mis Medi 2020 pan enillodd hi gystadleuaeth a drefnwyd gan Gyfeillion y Cyngor Llyfrau i lunio syniad ar gyfer nofel i oedolion ifanc.

Roedd Seran wedi mynychu’r cwrs Ysgrifennu a Darlunio i Blant yn Nhŷ Newydd yn 2019 fel darlunydd, ac fe fydd y nofel mae’n ei hysgrifennu hefyd yn cynnwys elfen graffeg amlwg.

Mae hi hefyd yn rhan o Gynllun Mentora Awduron Llenyddiaeth Cymru a’i gobaith yw y bydd ei nofel gyntaf, ‘Y Nendyrau,’ yn cael ei chyhoeddi yn 2021.