Cyhoeddi enwau beirdd carfan Pencerdd 2024-2025
Rhaglen beilot rhad ac am ddim blwyddyn o hyd yw Pencerdd, mewn partneriaeth â Barddas, y Gymdeithas Gerdd Dafod. Mae Pencerdd yn rhoi cyfle i feirdd sy’n gynganeddwyr lled-newydd i ddechrau dysgu’r grefft o ddifri. Byddant yn mynychu cwrs preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn mis Mawrth 2024 cyn cael eu paru gydag athro barddol am flwyddyn i dderbyn sesiynau mentora un-i-un. Bydd y garfan hefyd yn derbyn cyfres o weithdai digidol dros flwyddyn y cynllun, tanysgrifiad blwyddyn i gylchgrawn Barddas, yn ogystal â bod yn rhan o rwydwaith gefnogol fydd yn rhannu gwybodaeth am eisteddfodau lleol a chyfleoedd eraill perthnasol.
Disgyblion Pencerdd 2024-2025 yw Tegwen Bruce-Deans, Non Lewis, Llinos, Ana Chiabrando Rees a Buddug Watcyn Roberts.
Meddai Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru: “Braf yw cael cydweithio â Barddas i gynnig help llaw wrth i bum bardd gychwyn ar y daith hir, ddifyr a throellog hon i ddysgu’r gynghanedd. Mae ein traddodiad barddol yn rhan bwysig o’n hanes fel cenedl, a braint gan Llenyddiaeth Cymru yw annog lleisiau newydd amrywiol i barhau â’r traddodiad hwn.”
Detholwyd carfan Pencerdd 2024 – 2025 gan Jo Heyde ac Aneirin Karadog ar ran Barddas a Branwen Llewellyn o Llenyddiaeth Cymru.
Dywedodd Aneirin Karadog ar ran Barddas: “Mae rhoi cyfle i feirdd ifanc feithrin eu doniau cynganeddol yn greiddiol i genhadaeth Barddas. Tra bod Ysgolion Barddol a gwersi cynganeddu ar-lein i’w cael ledled Cymru, nid yw’r gynghanedd yn cael braidd dim sylw yn ein hysgolion bellach. Hoffem ddiolch felly i Lenyddiaeth Cymru am allu darparu’r adnoddau a’r cyllid i greu cynllun arloesol. Mae gennym bartneriaeth strategol gyda Llenyddiaeth Cymru ac mae’n braf gweld ein cyd-weithio yn dwyn ffrwyth. Bydd Pencerdd yn gwneud llawer o ddaioni nid yn unig i’r pum bardd sydd wedi cael eu dewis, ond hefyd i fyd y canu caeth yn ehangach wrth roi cyfleon i leisiau newydd fireinio eu crefft a, gobeithio, dod yn benceirddiaid eu hunain.”
Rhagor o wybodaeth am Ddisgyblion Pencerdd 2024-2025
Magwyd Tegwen Bruce-Deans yn Llandrindod a Llundain, mae hi bellach wedi ymgartrefu ym Mangor ac yn gweithio fel cynhyrchydd cynnwys i BBC Radio Cymru. Cyhoeddodd ei chyfrol cyntaf o gerddi, Gwawrio, fel rhan o gyfres Tonfedd Heddiw, Cyhoeddiadau Barddas yn 2023. Hi hefyd enillodd y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023 gyda chyfres o gerddi dan y teitl ‘Rhwng dau le’.
“Dim ond ar ddechrau fy nhaith farddonol ydw i ar hyn o bryd, felly mae cael cyfle trwy gynllun fel hwn i gyfoethogi fy sgiliau barddonol a rhwydweithio gyda beirdd eraill sy’n angerddol dros wella eu sgiliau cynganeddu yn werthfawr iawn i mi.”
Yn wreiddiol o Glydach, mae Non Lewis yn byw ym Mhenybont ar Ogwr. Mae hi’n fam i Mari a Gruff ac yn athrawes y Gymraeg yn Ysgol Gyfun Gŵyr, Abertawe. Dechreuodd ddysgu hanfodion y gynghanedd gydag Ysgol Farddol Caerfyrddin yn ystod y cyfnod clo, a rhoddodd y profiad gyfle iddi ail-afael mewn cyfansoddi llenyddiaeth. Enillodd Gadair Ysgol Gyfun Ystalyfera yn 1993 am stori fer, a chadair Eisteddfod Gadeiriol Caerdydd yn 2023 am rap ar y thema ‘Perthyn’.
“Rydw i’n edrych ymlaen at gael cyfle i dderbyn hyfforddiant a mentora i wella fy ngafael ar y gynghanedd, yn ogystal â dysgu ar y cyd â beirdd eraill. Dw i’n ymwybodol iawn bod meistroli’r grefft yn cymryd tua naw mlynedd yn ôl y sôn, felly bydd y flwyddyn nesaf yn gyfle euraidd i wneud camau breision i’r cyfeiriad hwnnw. Yn y pen draw, hoffwn drosglwyddo’r grefft i ddysgwyr yr ysgol a’r gymuned ehangach.”
Chwaraea Llinos (nhw/eu) â geiriau wrth lunio barddoniaeth découpé, yn ogystal ag ysgrifennu darnau ffeithiol-greadigol arbrofol. Ymddiddorant yn y berthynas rhwng amrywiaeth ecolegol ac ieithoedd lleiafrifoledig ac ar hyn o bryd maent yn archwilio eplesiad fel lens i ddehongli dyfodol y Gymraeg. Maent yn cynnal gweithdai zines fel dull hygyrch o ddogfennu hanesion cymunedol.
“Rhywbeth digon diflas ydi ceisio dysgu ar ben dy hun. Felly, bydd y cyfle yma i gyfarfod dysgwyr eraill, yn ogystal â chydweithio gydag arbenigwyr, yn brofiad gwerth chweil. Diolch Llenyddiaeth Cymru am guradu cymuned sy’n rhannu’r un nod ac am hygyrchu’r gynghanedd.”
Mae Buddug Watcyn Roberts yn fyfyrwraig PhD mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor. Er yn ifanc iawn mae ei bryd wedi bod ar ysgrifennu’n greadigol ac mae hi wastad wedi cystadlu mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Mae Buddug wedi gweithio ar nifer o brosiectau creadigol: llwyfannwyd drama ganddi gan Gwmni Ifanc Frân Wen ac mae wedi cyhoeddi ei gwaith yn Codi Pais a rhifynnau Ffosfforws gan gyhoeddiadau’r Stamp. Mae hi wedi cipio tair cadair mewn eisteddfodau lleol ac wedi dod yn drydydd am gadair yr Urdd yn 2023.
“Rwy’n edrych ymlaen i gael gafael ar y grefft sydd wedi bod yn nwylo dynion am gryn amser a gweld pa ryddid caiff ei ganfod o fewn crefft gaeth gan ferch ifanc.”
Daw Ana Chiabrando Rees o deulu Cymraeg o’r Wladfa ac mae hi’n byw ym Mlas y coed, Gaiman, cartref ei theulu ers pedair cenhedlaeth. Ana sy’n rhedeg y Tŷ Te Cymreig agorodd ei hen nain 80 mlynedd yn ôl yn ei chartref.
Dysgodd Ana Gymraeg fel oedolyn mewn cyrsiau yn Nhrelew, diolch i Brosiect Dysgu Cymraeg yn y Wladfa ac mae’n rhan o nifer o gymdeithasau Cymreig sy’n gweithio dros yr iaith a’r traddodiadau yn y Wladfa.
“Yn anffodus, does neb yn dysgu cynganeddu yn y Wladfa a do’n i ddim wedi cael y cyfle i ymuno â chwrs tan y cyfnod clo, pan gynhigiodd Ysgol Farddol Caerfyrddin gwrs ar-lein. Gwnes i wirioni gyda’r system a’i holl reolau, ac dw i wedi bod yn trio llunio cerddi mewn cynghanedd ers hynny.”
Gallwch ddarllen bywgraffiadau llawn a gwybodaeth bellach am obeithion y beirdd ar gynllun Pencerdd ar dudalen prosiect Pencerdd ar wefan Llenyddiaeth Cymru.